Rhoddir sylw i’r canfyddiadau hyn, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn dylanwadol Nature Climate Change, ar adeg pan fydd arweinwyr byd yn ymgynnull yn Dubai i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd yng nghynhadledd COP28.
Er bod efelychiadau modelu rhifiadol wedi cael eu defnyddio ers peth amser i astudio ymddygiad rhewlifoedd a llenni iâ, aeth ymchwilwyr o Brifysgol Northumbria a Phrifysgol Bangor ati, am y tro cyntaf, i gyfuno’r efelychiadau hynny gydag arsylwadau lloeren i ganfod a groeswyd pwynt tyngedfennol yn y gorffennol.
Maent bellach wedi gallu cadarnhau bod rhewlif Pine Island wedi encilio mewn modd cyflym ac ansefydlog rywbryd rhwng y 1940au a'r 1970au, gan arwain at golli iâ dros sawl degawd i’r graddau bod dim adfer ar y sefyllfa.
Caiff rhewlif Pine Island, ynghyd â rhewlif Thwaites ger llaw, eu disgrifio fel 'bol' llen iâ gorllewin yr Antarctig. Yn rhewlif Pine Island y ceir yr all-lif cyflymaf o iâ yng ngorllewin Antarctica ac mae wedi cyfrannu mwy at y cynnydd byd-eang yn lefel y môr dros y degawdau diwethaf nag unrhyw rewlif arall yn yr Antarctig.
Rhwng y 1940au a'r 1970au torrodd y rhewlif, a oedd 40km o’i safle presennol, yn rhydd o grib ar wely'r môr. Enciliodd yn gyflym nes sefydlogi dros dro mewn man bas o wely'r môr ar ddiwedd yr 1980au.
Mae'r ymchwilwyr o'r farn y byddai cyfnod o dymereddau cynnes yn y cefnfor wedi bod yn ddigonol i achosi i waelod y rhewlif doddi, gan ei orfodi i encilio o'i safle hirdymor ar y grib.
Er bod yr astudiaeth yn awgrymu y gallai'r cyfnod cyflym hwnnw o golli màs fod wedi dod i ben erbyn hyn, mae eu canlyniadau'n dangos bod y rhewlif erbyn dechrau'r 1970au wedi cilio i bwynt lle na fyddai modd iddo adennill ei fàs a'i safle gwreiddiol yn ystod cyfnodau oerach. Mae hyn yn cadarnhau bod enciliad y rhewlif yn ystod y cyfnod hwn yn ddi-droi’n-ôl, sy'n golygu ei fod wedi pasio pwynt tyngedfennol.
Mewn astudiaeth wahanol, defnyddiodd yr ymchwilwyr eu model rhifiadol hefyd i ragweld beth fyddai ymddygiad y rhewlif yn y dyfodol ac maent wedi canfod y bydd unwaith eto’n cael cyfnodau o encilio cyflym oni bai y cedwir rheolaeth dros gynhesu byd-eang.
Mae'r goblygiadau ar gyfer y dyfodol yn glir. Gall yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ddigwydd eto. Mae ein gallu i fodelu newidiadau yn y gorffennol wrth i'r rhewlif basio pwynt tyngedfennol, yn rhoi hyder ychwanegol i ni o ran ein rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol. Ond mae'n destun pryder bod ein model yn rhagweld rhagor o gyfnodau di-droi'n-ôl o golli màs yn gyflym yn yr un rhanbarth yn y dyfodol oni bai fod modd i ni atal cynhesu byd-eang. Ychwanegodd: "Er efallai fod y cyfnod o encilio a fodelwyd wedi gorffen, ni allwn ddiystyru cyfnod tebyg o golli más mewn modd na fyddai modd ei adfer o'r rhan hon o'r llen iâ yn y dyfodol agos ac ni ddylem roi ein hunain mewn sefyllfa o orfod wynebu’r canlyniadau sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o encilio a cholli màs.
Ychwanegodd yr Athro Mattias Green, Athro Eigioneg yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor:
Mae'r ymchwiliad yn tynnu sylw at y rhyngweithio pwysig rhwng y cefnfor a'r rhewlifoedd yn Antarctica. Mae'n bosibl mai’r yn a sbardunodd yr encilio hanesyddol oedd cyfnod o ddŵr cynnes yn y cefnfor yn ardal rhewlif Pine Island, a hyd yn oed pan ddychwelodd cyfnod oerach, parhaodd yr enciliad. Mae hyn yn eithaf pryderus o ran cyflwr rhewlif Pine Island a’r rhewlifoedd cyfagos yn y dyfodol mewn byd sy'n cynhesu. Mae’r astudiaeth hefyd yn pwysleisio y gall ymchwilio i ymddygiad llen iâ'r Antarctig yn y gorffennol roi cipolwg i ni ar sut y bydd yn ymateb yn y dyfodol, ac mae'n rhoi hyder i ni yn ein gallu i ragweld yr ymatebion hynny.
Cyd-awdur yr astudiaeth oedd Hilmar Gudmundsson, sy’n Athro Rhewlifeg o Brifysgol Nortumbria. Rhybuddiodd ef mai lwc o bosibl oedd i gyfri fod enciliad y rhewlif wedi sefydlogi ar ôl ychydig ddegawdau o golli iâ oherwydd topograffi'r creigwely o dan Fôr Amundsen.
Mae'r astudiaeth hon yn ymwneud â deall yr achosion dros newidiadau diweddar yn y maes hwn, a'r hyn y gallwn ei ddisgwyl nesaf. Mae ymddygiad di-droi’n-ôl y rhewlif, a welwn yn yr efelychiadau hynny, hefyd i'w weld yn ein rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol. Yr awgrym yw y dylem fod yn meddwl am golli iâ o'r rhan hon o'r byd nid yn nhermau bod hynny’n ymateb pwyllog a graddol i gynhesu byd-eang, ond fel rhywbeth sydd, o'i wthio yn rhy bell, yn digwydd yn ddigymell ac yn gyflym. Y tro hwn y canlyniad oedd dros gyfnod o ychydig ddegawdau mai’r rhewlif hwn oedd y cyfrannwr pennaf o safbwynt Llen Iâ’r Antarctig i godi lefel y môr. Yr hyn y mae ein modelau yn ei awgrymu yw mai hanes rhewlif Pine Island yw y bydd pwyntiau tyngedfennol pellach yn cael eu pasio ac y bydd hynny’n achosi colli hyd yn oed yn mwy o’r iâ. Ac o ystyried hynny, efallai wir ein bod wedi bod yn lwcus y tro hwn.