Mae’r tabl cynghrair cenedlaethol wedi gosod y Brifysgol yn 18fed ar y cyd o blith 151 o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor dros Gynaliadwyedd, Dr Christian Dunn,
“Fedren ni ddim bod yn hapusach efo’r canlyniad – dan ni’n gwybod ein bod ni’n brifysgol arbennig am gymaint o resymau, gan gynnwys ein gwaith ar gynaliadwyedd, felly mae’n wych bod hynny’n cael ei gydnabod fel hyn.
“Dan ni’n arbennig o falch o gael ein rhestru yn 1af ar y cyd am Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwyedd a 12fed am Reoli Carbon.
“Mae tabl cynghrair prifysgolion People and Planet yn un o’r pwysicaf yn y meysydd hyn oherwydd ei fod yn ystyried pob maes cynaliadwyedd, nid dim ond y materion amgylcheddol amlwg.
“Yn amlwg ni fyddem yn y fath safle uchel oni bai am y gwaith y mae cymuned y brifysgol gyfan yn ei wneud bob dydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mhob maes o gynaliadwyedd.
“Mae gennym ni staff anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni gan helpu i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn wrth weithredu ym maes cynaliadwyedd.”
Mae cynaliadwyedd wrth galon popeth yr ydan ni’n ei wneud yn y brifysgol, o’n hymchwil a’n haddysgu, i reoli ystadau a busnes bob dydd – felly rydyn ni wrth ein boddau gyda’n safle yn nhabl cynghrair People and Planet.
Rydyn ni’n sicr yn haeddu’r ganmoliaeth, ond mae yna waith i’w wneud o hyd gan nad ydyn ni’n rhif un eto!