Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru’n awyddus i rannu ei chynlluniau a chlywed barn y cyhoedd a gwahanol grwpiau diddordeb. Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i Gyfarfod Agored ar ddydd Sadwrn 27 Ionawr 2024, yn Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor rhwng 12 a 3pm.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys pedwar cyflwyniad byr ar wahanol themâu gydag amser wedi'i neilltuo ar gyfer trafodaeth ac adborth ar ôl pob un.
Mike Larvin, Dirprwy Is-ganghellor Meddygaeth ac Iechyd, a Deon Meddygaeth, sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Meddai Mike Larvin,
“Mae agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, sy’n ysgol feddygol annibynnol newydd, yn ddatblygiad cyffrous sy’n adeiladu ar y gwaith mae Prifysgol Bangor wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid gofal iechyd ledled rhanbarth Gogledd Cymru er mwyn cefnogi ein cymunedau lleol yn well. Nod yr ysgol fydd mynd i’r afael â phroblemau staffio gofal iechyd yn y rhanbarth trwy roi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â’u hyfforddiant israddedig yn gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru.
“Rydym wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio’n agos gyda Meddygon Teulu lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gynllunio rhaglen yr Ysgol Feddygol. Ond er mwyn iddi fod yn llwyddiannus, mae angen mwy o fewnbwn lleol arnom, ac felly, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad i randdeiliaid allweddol.
“Byddwn yn rhannu cyflwyniad byr yn egluro sut y bwriadwn sicrhau bod meddygon yn graddio gyda gwell dealltwriaeth o anghenion ein cymunedau yng Ngogledd Cymru, a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau, ac yn dilyn hynny, bydd pedwar cyflwyniad ar wahanol themâu a fydd yn fodd i ni gael adborth gan y cyhoedd a syniadau newydd ynghylch sut y gallwn wella ein cynlluniau. Edrychwn ymlaen at gael cyfarfod pobl ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad y gall unigolion a grwpiau defnyddwyr iechyd a sefydliadau eraill ei wneud i’r project cyffrous hwn.
Gan y bydd rhywfaint o luniaeth yn cael ei ddarparu, gofynnir i unrhyw un a hoffai ddod gofrestru drwy dilyn y ddolen i dudalen y digwyddiad.