Arweinir y project gan Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth a Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor a Hannah Eccles-Westbury, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Dr Lowri Hughes, Canolfan Bedwyr a Chyngor Gwynedd.
Gofynnir i bobl sy'n byw yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn ar hyn o bryd gwblhau arolwg byr i helpu gyda'r ymchwil - waeth a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio, a waeth pa mor hir y maent wedi byw yma.
Nid yw'n gyfrinach fod y Gymraeg yn iaith dan fygythiad. Er gwaethaf cynnydd yn y boblogaeth o 2.6 miliwn i 3.1 miliwn, mae niferoedd y siaradwyr wedi haneru fwy neu lai yn y cyfnod hwn, gan ostwng i’w niferoedd isaf ym 1981. Mae ymdrechion i warchod ac adfywio’r iaith wedi gweld llwyddiant amrywiol – mae tua ~250,000 o siaradwyr ychwanegol erbyn hyn o’i gymharu â chyfrifiad 1981, ac eto bu canran poblogaeth gyffredinol y siaradwyr yn gostwng yn gyson.
Dywedodd Hannah Eccles-Westbury,
“Mae hyn yn golygu, er gwaethaf agweddau diwylliannol ac ieithyddol cadarnhaol cyffredinol yng Nghymru, y gall yr iaith fod yn wynebu dyfodol ansicr. Tra bod ymdrechion hyd yma wedi arafu ei dirywiad, nid ydynt wedi bod yn gwbl lwyddiannus yn eu hamcanion – mae angen mwy, ac mae angen inni ddeall yn well pa ran sydd gan yr iaith ym mywydau pobl mewn gwirionedd.
I rai pobl, gall y Gymraeg gael ei chyfyngu i beuoedd arbennig – efallai teulu a ffrindiau, efallai addysg. I eraill, mae’r Gymraeg yn rhan ganolog o’u hunaniaeth ac yn perthyn yn agos i dreftadaeth ac ymlyniad lle. Ond i eraill, efallai y teimlir bod diwylliant dwyieithog yn her.”
Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio y bydd y project yn eu helpu nhw ac eraill i hybu ac annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd yng Ngwynedd, yn enwedig wrth ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor gan gynnwys cyswllt wyneb yn wyneb, galwadau ffôn a gwasanaethau ar-lein.
Dywedodd Llywela Owain o Uned Iaith a Chraffu Cyngor Gwynedd,
“Mae’r arolwg hwn yn un pwysig gan y bydd yn rhoi data i ni am ddefnydd iaith mewn amrywiol gyd-destunau gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus y mae Cyngor Gwynedd yn eu darparu. Bydd hefyd gobeithio yn rhoi syniad i ni o ba fath o bethau sydd angen i ni fel Cyngor ystyried eu gwneud yn y dyfodol er mwyn gweld mwy o’n trigolion yn defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.”
Ychwanegodd Thora Tenbrink,
“Bydd ein harolwg yn archwilio nid yn unig statws yr iaith ac agweddau pobl yn gyffredinol, ond yn fwy penodol rôl y Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau, a pha strategaethau y mae pobl yn teimlo fyddai’n eu helpu. Anogir cyfranogwyr sy’n byw yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy (boed yn barhaol neu dros dro), ac o bob cefndir ieithyddol (gan gynnwys y di-Gymraeg) i’w gwblhau.”
Gallwch ymuno yma
Arolwg iaith newydd i ofyn sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy
Mae Prifysgol Bangor yn ymchwilio i agweddau pobl tuag at y Gymraeg, ei defnydd mewn amrywiol gyd-destunau a sut y gellir hybu ei defnydd ymhellach yng ngogledd orllewin Cymru.