Fy ngwlad:
Nursing Awards logo

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor ar restr fer Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn

Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor, Katie Bright, wedi cyrraedd rhestr fer Myfyriwr Nyrsio’r Flwyddyn yn y categori anableddau dysgu yng Ngwobrau Student Nursing Times 2024.

 
Rwy’n teimlo’n hynod o falch ‘mod i wedi cael fy nghydnabod am fy ngwaith ym maes nyrsio anabledd, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl! Rwy’n angerddol am ddatblygu a darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ag anabledd dysgu ac edrychaf ymlaen at gefnogi cydweithwyr sy’n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb o fewn gofal iechyd.
Katie Bright

Bydd Gwobrau Student Nursing Times yn cael eu dathlu ddydd Gwener 26 Ebrill 2024 mewn seremoni fyw yng Ngwesty JW Marriott Grosvenor House ar Park Lane, Llundain.

Gan longyfarch Katie, dywedodd Dr Elizabeth Mason, Pennaeth Ysgol Dros Dro ac Arweinydd Proffesiynol (Nyrsio) yr NMC, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor,

Rydym i gyd yn falch iawn o gyflawniad Katie o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Myfyriwr Nyrs y Flwyddyn yn y categori Anableddau Dysgu. Yn ystod ei thair blynedd ym Mangor, aeth gam ymhellach o ran ei hastudiaethau ymarferol a’r theori.
Taniwyd ei llwyddiant academaidd gan chwilfrydedd gwirioneddol mewn dysgu, ond roedd hefyd yn arddangos yn rheolaidd y sgiliau meddalach hollbwysig hynny o garedigrwydd a thosturi tuag at ei chyfoedion ac unigolion ag anabledd dysgu, a dyma a wnaeth iddi ddisgleirio mewn gwirionedd.
Rydym fel cydweithiwr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn dymuno’r gorau iddi ar noson y Gwobrau, ac yn ei gyrfa nyrsio yn y dyfodol, mae’n esiampl ddisglair i holl fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y dyfodol.
Dr Elizabeth Mason,  Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor