Fy ngwlad:
 llun llydan o aber cul yn rhedeg drwy morfa heli

Byddai credydau carbon yn galluogi adfer morfeydd heli'r Deyrnas Unedig meddai arbenigwyr

Astudiaeth yn cefnogi cyflwyno Cod Morfeydd Heli’r Deyrnas Unedig a chynllun masnachu carbon

Mae hyn yn newyddion gwych iawn i forfeydd heli arfordirol a’r manteision niferus yr ydym ni, fel pobl, yn eu cael o’r ecosystem hon. Rydym wedi gwybod ers nifer o flynyddoedd y gall 'gwlyptiroedd carbon glas’, megis morfeydd heli, ddal mwy o garbon fesul uned arwynebedd na choedwigoedd glaw trofannol. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn araf yn defnyddio'r ffaith hon i hybu cyfradd adfer a diogelu morfeydd heli. Gyda Chod Morfeydd Heli newydd y Deyrnas Unedig, gall projectau dalu am rai o'u costau adfer trwy fasnachu credydau carbon ar y farchnad wirfoddol, i'r un graddau â'r swm o CO2 sy'n cael ei ddal gan eu cors. Yn 2012, helpodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor i sefydlu project masnachu 'carbon glas' cyntaf y byd gyda choedwigoedd mangrof yn Kenya. Mae’n hen bryd inni gael rhywbeth cyfatebol yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o broject arloesol y Cod Morfeydd Heli.
Dr Martin Skov,  o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, ac a gyfrannodd at yr ymchwil

Dywedodd Annette Burden, gwyddonydd gwlyptir UKCEH a arweiniodd yr astudiaeth, a oedd hefyd yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd, RSPB, Prifysgol St Andrews, SRUC, Pwyllgor Cenedlaethol IUCN y Deyrnas Unedig, Finance Earth a Jacobs,

“Gall morfeydd heli chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Byddai adfer safleoedd ledled y wlad yn cefnogi cynnydd tuag at ein targedau sero net ac yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys adar mudol sy'n gaeafu a rhywogaethau pysgod sy'n fasnachol bwysig fel draenogod y môr.

“Byddai cyflwyno Cod Morfeydd Heli yn paratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad preifat i gefnogi projectau sydd â rhywfaint o gyllid cyhoeddus ond na fyddai’n digwydd fel arall.”

Mae ffactorau amrywiol megis cyflwr y tir, cymhlethdod y cynllun ac iawndal i dirfeddianwyr yn golygu na ellir rhagweld cost adfer, hyd yn oed ar ôl i’r gwaith adfer ddechrau, a dyna pam yr ystyrir bod cyllid cyhoeddus yn hanfodol i dalu rhai o’r costau.

Edrychodd y tîm ymchwil ar faint o gost y cynllun i adfer corsydd Old Hall Marshes yn Essex y gellid ei thalu gan fuddsoddiad preifat ac adolygodd a allai cyllid carbon fod wedi codi digon o arian ar gyfer aildrefnu rheoledig Steart Marshes yng Ngwlad yr Haf, a gynhaliwyd yn 2014.

Canfu’r dadansoddiad, gyda grantiau, y byddai cynllun Steart Marshes wedi gallu cynhyrchu enillion cyfradd y farchnad ar gyfer buddsoddwyr ecwiti, ac felly denu buddsoddiad digonol i fod yn ariannol hyfyw. Mae tîm y project, gyda chefnogaeth cyllid pellach gan Asiantaeth yr Amgylchedd/Defra, bellach yn datblygu Cod Morfeydd Heli peilot i’w brofi ymhellach, gyda’r gobaith y gellir cyflwyno system credydau carbon morfeydd heli yn 2025.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb a mwy o wybodaeth am y gwaith parhaus ar y Cod Morfeydd Heli ar gael ar wefan UKCEH