Mae Prifysgol Bangor ymhlith y garfan gyntaf o brifysgolion i lofnodi safon cynaliadwyedd newydd ar gyfer ymchwil.
Fe’i cyhoeddwyd heddiw yn y safon newydd y bydd y Brifysgol yn awr yn gweithio i’w mabwysiadu. Bydd Wellcome yn disgwyl i ymchwilwyr ddefnyddio'r dulliau mwyaf cynaliadwy sydd ganddynt, ac esbonio mewn ceisiadau newydd am grantiau sut y bwriadant leihau'r defnydd o ynni, ailddefnyddio offer, ac ailgylchu cynhyrchion gwastraff. Mae'r gofynion yn rhan o bolisi newydd Wellcome sy'n nodi disgwyliadau ymchwil cynaliadwy.
Rydym yn falch iawn o lofnodi’r concordat a gallu cyflawni/ gweithio tuag at y safon hon. Mae’r safon cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer ymchwil yn cyd-daro â’r uchelgeisiau sydd gennym i ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang mewn cynaliadwyedd ac i gynnal ymchwil rhyngwladol rhagorol a pherthnasol sydd hefyd yn seiliedig ar yr amgylchedd lleol ac sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae angen i’n nodau gael eu hadlewyrchu nid yn unig yn yr hyn a wnawn ond yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud.
Concordat cynaliadwyedd amgylcheddol traws-sector
Mae'r newidiadau i bolisi Wellcome yn cyd-daro â lansiad concordat cynaliadwyedd amgylcheddol gwirfoddol a ddatblygwyd ar y cyd gan fwy na 25 o sefydliadau ledled y sector ymchwil ac arloesedd yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r concordat yn cefnogi'r uchelgais ehangach a nodir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni sero net erbyn 2050. Mae llofnodwyr a chefnogwyr y concordat yn ymrwymo i wreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol yn gynyddol mewn ymchwil ac arloesedd yn eu holl agweddau. Mae'r concordat wedi'i anelu at bob sefydliad yn y sector ymchwil ac arloesedd. Mae grŵp cychwynnol o 15 llofnodwr a chwe chefnogwr wedi ymuno yn y lansiad, ac maent yn galw ar sefydliadau eraill i wneud yr un peth. Yr uchelgais yw creu effaith ystyrlon a pharhaol i leihau’r effeithiau amgylcheddol sydd ynglŷn â chynnal ymchwil.
Mae’r llofnodwyr yn cytuno i weithredu ar chwe maes blaenoriaeth a gaiff eu disgrifio yn y concordat, megis cynnal tryloywder ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol allbwn yr ymchwil a chanfod dulliau carbon isel newydd sy’n ystyried yr hinsawdd. Disgwylir hefyd ymrwymiad gan y llofnodwyr i rannu'n gyhoeddus sut y bydd eu sefydliadau’n cyflawni’r nodau sydd ganddynt o ran cynaliadwyedd a chyhoeddi crynodebau cynnydd blynyddol.
Datblygodd Cancer Research UK (CRUK), un o lofnodwyr cyntaf y concordat, bolisi newydd yn ogystal sy’n cyflwyno gofynion i ymgeiswyr am grantiau a sefydliadau sy’n derbyn cyllid craidd ddangos cynaliadwyedd amgylcheddol eu labordai, yn ogystal â sefydliadau sy’n cynnal ymchwilwyr a ariennir gan CRUK.
Dywedodd Iain Foulkes, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymchwil ac Arloesedd Cancer Research UK: “Mae gennym ni ran allweddol i’w chwarae’n lleihau effaith amgylcheddol ein hymchwil trwy fynd i’r afael â sut mae’r labordai a’r cyfleusterau rydym yn eu hariannu yn gweithredu, i alluogi ymchwilwyr i gyflawni eu gweithgareddau mewn modd cynaliadwy. Bydd y concordat yn caniatáu inni gydweithio i adeiladu system ymchwil fwy cynaliadwy."
Mae’r concordat yn cynrychioli uchelgais a rennir i’r Deyrnas Unedig barhau i ddarparu ymchwil blaengar a hynny mewn ffordd sy’n fwy cyfrifol yn amgylcheddol. Mae hefyd yn cydnabod rôl hollbwysig ymchwil ac arloesedd i ddeall sut mae ein planed yn newid, a chreu atebion i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Bu sefydliadau o bob rhan o sector ymchwil ac arloesedd y Deyrnas Unedig yn cydweithio, gan gynnwys ymgynghori helaeth, i ddatblygu’r set o flaenoriaethau ac ymddygiadau cyfrifol a gaiff eu nodi yn y concordat. Mae sector ymchwil ac arloesedd y Deyrnas Unedig yn berchen ar y ddogfen derfynol ar y cyd.
Mae Wellcome yn cynnal y concordat ar ei safle ac mae’n darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae ymuno, yn ogystal â rhestr a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd o’r llofnodwyr a’r cefnogwyr. Mae'r EAUC yn cynnig gwasanaeth ysgrifenyddol i lofnodwyr y concordat. Caiff grŵp trosolwg newydd ei ffurfio i gydgysylltu adolygiad o gynnwys ac effaith y concordat yn unol â datblygiadau newydd ym maes cynaliadwyedd.
Rhestr o lofnodwyr y concordat cychwynnol yn y lansiad:
- Prifysgol Bangor
- British Academy
- Cancer Research UK
- Canolfan John Innes
- Prifysgol Keele
- Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR)
- Coleg Prifysgol Llundain (UCL)
- Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI)
- Prifysgol Caeredin
- Prifysgol Essex
- Prifysgol Glasgow
- Prifysgol Caerlŷr
- Prifysgol Lerpwl
- Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (UWE)
- Wellcome
Rhestr o gefnogwyr y concordat cychwynnol yn y lansiad:
- Academi’r Gwyddorau Meddygol
- Cymdeithas Elusennau Ymchwil Meddygol (AMRC)
- Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon (DfENI)
- Cymdeithas Amgylcheddol y Prifysgolion a’r Colegau (EAUC)
- Academi Frenhinol Peirianneg
- Y Gymdeithas Frenhinol