cyrptocurrency, phone, hands, graphs

Ymchwil newydd yn bwrw amheuaeth dros briodweddau 'hafan ddiogel' cryptoarian

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn International Review of Financial Analysis yn awgrymu y dylid trin honiadau bod cryptoarian yn imiwn i risgiau economaidd â chryn ofal.

Dylai hyn fod â goblygiadau o ran strategaethau buddsoddwyr wrth greu portffolio amrywiol, a dylai hysbysu'r ddadl ynghylch rheoleiddio cryptoarian. Dylai llunwyr polisi a buddsoddwyr fod yn ymwybodol, er y gall buddsoddiadau crypto ymddangos fel offeryn da i warchod rhag risgiau mewn cyfnodau economaidd arferol, mae eu gallu i warchod rhag risgiau mewn perthynas â rhai ffactorau risg yn cael ei ystumio neu ei wanhau mewn cyfnodau o gynnwrf economaidd, fel y dangoswyd yn ystod pandemig COVID-19 ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Dr Danial Hemmings ,  Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor

Mae'r papur llawn ar gael yn rhifyn 94 yr International Review of Financial Analysis (2024).

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?