Image of graduation ceremony

Syr Alan Bates, Noel Thomas a Manon Steffan Ros ymhlith y deg unigolyn a anrhydeddir gan Brifysgol Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dyfarnu graddau er anrhydedd yn yr haf eleni i ddeg unigolyn ym maes gwasanaeth cyhoeddus, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chwaraeon am eu cyfraniad at fywyd cyhoeddus.

Syr Alan Bates

Cyn Is-bostfeistr - am Wasanaeth Cyhoeddus

Er ei fod yn arwr annhebygol, mae Syr Alan Bates, cyn is-bostfeistr o Landudno, wedi ymroi dau ddegawd i eiriol dros gyfiawnder a chlirio enwau rheolwyr Swyddfa’r Post a ddioddefodd yn sgil yr hyn a ystyrir yr achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes y Deyrnas Unedig.

Sefydlodd Syr Alan y Gynghrair Gyfiawnder i Is-bostfeistri yn 2009, gan chwarae rhan flaenllaw yn y frwydr gyfreithiol i geisio cyfiawnder i'r rhai a gyhuddwyd ar gam a sicrhau iawndal iddynt.

Gyda phump arall o’r Gynghrair Gyfiawnder, aeth â Swyddfa'r Post i'r llys ar ran 555 o hawlwyr.

Noel Thomas

Cyn Is-bostfeistr - am Wasanaeth Cyhoeddus

Cafodd Noel Thomas, cyn is-bostfeistr o Ynys Môn, gydnabyddiaeth am ei ran arwyddocaol yn yr ymgyrch yn erbyn yr achos o gamweinyddu cyfiawnder sylweddol yn y Deyrnas Unedig a elwir yn sgandal Horizon.

Bu’n rhan o frwydr gyfreithiol hirfaith, ac yn ymgyrchu ochr yn ochr ag eraill i glirio enwau is-bostfeistri a wynebodd euogfarnau troseddol oherwydd meddalwedd cyfrifo diffygiol. Mae ei ymrwymiad i geisio cyfiawnder i’r rhai a ddioddefodd yn sgil y sgandal yn enghraifft o’i wytnwch ac o ba mor benderfynol yr oedd i ddatgelu’r gwir.

Manon Steffan Ros

Awdur - am ei chyfraniad at y Gymraeg a Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru

Mae Manon Steffan Ros yn nofelydd, dramodydd, sgriptwraig, a cherddor amlwg o Gymru sy’n chwarae rhan arwyddocaol ym myd llenyddol yr iaith Gymraeg. Y llynedd, dyfarnwyd Medal Yoto Carnegie i Manon am ei nofel 'The Blue Book of Nebo', cyfieithiad gan Manon o'i nofel, Llyfr Glas Nebo, a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2018 a thair gwobr Llyfr y Flwyddyn.

 

 

 

Linda Gittins MBE

Cerddor a chyfansoddwr – am ei chyfraniad at y Gymraeg a Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru

Mae Linda Gittins MBE, yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor a gydsefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn ym 1981. Mae’n enwog am gynhyrchu rhai o sioeau theatr gorau a mwyaf eiconig Cymru. Gan gydweithio gyda Penri Roberts a'r diweddar Derec Williams, mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu sawl sioe lwyfan. Wrth wneud hynny, mae hi wedi cefnogi a dylanwadu ar yrfaoedd llawer o bobl ifanc ac mae ei cherddoriaeth yn gyfarwydd i sawl cenhedlaeth.

Joan Edwards OBE

Biolegydd y Môr - am Ysgoloriaeth ac Arloesi Eithriadol

Mae’r gyn-fyfyrwraig Joan Edwards, Pennaeth Moroedd Byw yn yr Ymddiriedolaethau Natur, wedi treulio dros 30 mlynedd yn ymgyrchu, yn hysbysu ac yn dylanwadu y tu ôl i’r llenni i warchod amrywiaeth bywyd y môr o amgylch ein glannau. Mae ganddi wybodaeth sylweddol am fioamrywiaeth, ecosystemau a diwydiannau’r môr. Yn yr ymddiriedolaethau, hi sy’n gyfrifol am y polisi cenedlaethol ar gadwraeth y môr.

Mark Williams PLY

Cyn Nofiwr Paralympaidd – am Fusnes ac Entrepreneuriaeth

Bu i’r cyn nofiwr paralympaidd ac enillydd medal Mark Williams droi syniad am gloriau coesau prosthetig lliwgar yn fusnes arloesol. Gyda’i wraig Rachael, sefydlodd LIMB-art, cwmni sy'n meithrin balchder pobl yn eu haelodau prosthetig. Mae llawer o gwsmeriaid wedi nodi newid cadarnhaol yn eu hagwedd a'u hyder wrth wisgo eu coesau prosthetig. Mae LIMB-art wedi derbyn sawl clod, gan gynnwys y wobr fawreddog King’s Award for Enterprise.

Dr Susan Chomba

Cyfarwyddwr, Vital Landscapes, Affrica am Wasanaeth Cyhoeddus

Mae’r gyn-fyfyrwraig Dr Susan Chomba, un o’r graddedigion Meistr Ewropeaidd cyntaf erioed i raddio mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy, bellach yn llysgennad byd-eang o fri ar gyfer y Race to Zero a’r Race to Resilience o dan Uwch Hyrwyddwyr y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd. Cafodd ei henwi’n un o ‘16 Women Restoring the Earth’ y Global Landscapes Forum yn 2021 ac ymddangosodd ar restr y BBC o 100 o ferched ysbrydoledig a dylanwadol y byd yn 2023.

Yr Athro E Wynne Jones OBE

Cyn Brifathro a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams - am Wasanaethau i Addysg

Magwyd yr Athro Wynne Jones ar ei fferm deuluol ger Bae Colwyn gan raddio mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Bangor ym 1970. Daeth maes o law yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Prifysgol Harper Adams, lle bu’n arwain y gwaith o sicrhau statws prifysgol a phwerau dyfarnu graddau ymchwil i’r sefydliad yn 2006.

Dyfarnwyd OBE i’r Athro Jones yn 2009 am ei wasanaethau i amaethyddiaeth mewn addysg uwch. Mae hefyd wedi derbyn sawl gwobr am ei gyfraniadau at y diwydiannau amgylcheddol a thir, gan gynnwys Gwobr Cyflawniad Oes LANTRA CYMRU yn 2019  Oherwydd ei arweinyddiaeth ddylanwadol, cafodd hefyd swydd cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes Sioe Frenhinol Cymru.

Yr Athro John Phillip Sumpter OBE

Ecotocsicolegydd, Prifysgol Brunel - am Wasanaethau i Addysg

Ar ôl ennill ei PhD mewn Sŵoleg Forol o Brifysgol Bangor, aeth yr Athro John Philip Sumpter rhagddo i fod yn ecotocsicolegydd o fri ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes. Dechreuodd ei daith ddylanwadol ddiwedd y 1970au pan ymchwiliodd i ffenomen pysgod 'rhyngrywiol' yn Afon Lea, gan eu cysylltu â llygredd cemegol o ffynonellau diwydiannol, plastig, fferyllol a chosmetig. Arweiniodd hyn at ymchwil helaeth ar lygredd cemegol cymysg, gan gynnwys amrywiaeth eang o sylweddau mewn afonydd. Cododd hyn ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd amgylcheddol.

Carl Foulkes QPM

Cyn Brif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru - am Wasanaeth Cyhoeddus

Carl Foulkes oedd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru rhwng 2018 a 2022 ac arweinydd plismona cenedlaethol Cymru yn ystod Covid. Bu ei gefnogaeth i’r bartneriaeth rhwng yr heddlu a Phrifysgol Bangor wrth sefydlu'r graddau ymarfer plismona proffesiynol yn amhrisiadwy. Ef oedd deiliad portffolio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac mae ei ymrwymiad i’r gwerthoedd hynny’n cyd-fynd yn llwyr ag ymrwymiad y brifysgol.

Mae’r seremonïau graddio yn gyfle i ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant pob un o fyfyrwyr Bangor. Yn ogystal â dathlu llwyddiant pob myfyriwr sy’n graddio, mae dyfarnu Graddau Er Anrhydedd yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o gyfraniad unigolion at wasanaethau cyhoeddus, at lenyddiaeth a cherddoriaeth, at fusnes, chwaraeon neu wyddoniaeth. Gall straeon ein myfyrwyr, a straeon yr unigolion sy’n cael eu anrhydeddu eleni, ein hysbrydoli ni i gyd.

YrAthro Edmund Burke,  Is-ganghellor, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?