Heddiw, mae wyth myfyriwr ac un cyn-fyfyriwr sydd bellach yn athrawes wedi ennill Gwobrau Heddychwyr Ifanc yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Ers mis Mawrth eleni, mae saith myfyriwr israddedig mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ac un myfyriwr PhD Athroniaeth a Chrefydd, ynghyd â chyn-fyfyriwr Athroniaeth a Chrefydd, Emilia Johnson, sydd bellach yn athrawes, wedi creu adnoddau dysgu newydd sbon i athrawon er mwyn i ddysgyblion ddysgu rhagor am Heddwch yng Nghyfnod Allweddol 3.
Wedi’i drefnu ar y cyd gan Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol (WCIA), Academi Heddwch Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, mae’r Gwobrau Heddwchwyr Ifanc blynyddol yn dathlu plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, eu cymuned leol neu yn y byd ehangach. Enwebwyd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn y categori Treftadaeth Heddwch Ifanc, a feirniadwyd gan Brosiect Deisebau Heddwch y Merched.
Datblygwyd yr adnoddau gan grŵp Prifysgol Bangor ar gyfer yr elusen a ym Mhrifysgol Bangor, Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, sy’n cefnogi athrawon a myfyrwyr wrth iddynt ymwneud ag Addysg Grefyddol, Gwerthoedd a Moeseg a’r Dyniaethau ar draws Cyfnodau Allweddol 3, 4. a 5.
Mae’r adnoddau’n cynnwys gwersi am ryfel a heddwch, bwlio, crefydd a gwrthdaro, jihad, symbolau heddwch, Deiseb Heddwch Merched, a Henry Richard: Apostol Tangnefedd, ymhlith pynciau eraill.
Dywedodd Rebecca Wilson o WCIA, "Bydd yr adnoddau hyn yn helpu myfyrwyr i archwilio heddwch yn fanwl a datblygu sgiliau fel meddwl beirniadol, ymholiad gwerthfawrogol, a'r gallu i gyfathrebu ar bynciau'n ymwneud â heddwch. Dangosodd y grŵp ddealltwriaeth gyffredinol o gymhlethdodau a phwysigrwydd heddwch. Mae eu cydweithrediad i gyflawni’r nod hwn yn dangos eu hymrwymiad i’r gwaith ac mae eu gallu i greu cysylltiadau ar gyfer treftadaeth heddwch ledled Cymru i’w ganmol. Llongyfarchiadau!”
Meddai’r darlithydd Dr Gareth Evans-Jones, a weithiodd gyda’r grŵp a’u henwebu ar gyfer y Wobr Heddychwyr Ifanc,
“Mi wnes i enwebu'r criw oherwydd pa mor wirioneddol eiddgar oedden nhw am y pwnc a hefyd am greu adnoddau arbennig o'r fath. Roedd pob un wedi cyfrannu'n enfawr at y prosiect ac roedd y sawl sydd yn ystyried mynd yn athrawon wedi cael profiad buddiol yn cydweithio efo Emilia, a hyd yn oed y rhai nad ydyn nhw am fynd yn athrawon, wedi cael budd o greu adnoddau o'r fath.Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ar y wobr haeddianol yma. Y nod ydi y bydd y pecyn addysg cyfan ar gael ddiwedd y flwyddyn yma, ond bydd blas ohono'n cael ei rannu ar 21 Medi - Diwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig.”