Trelar Prifysgol Bangor gydag aelodau o'r cyhoedd yn ymgynnull

Lansiad podlediad Llond Ceg ar faes Sioe Frenhinol Cymru

Mae cyfres o bodlediadau Llond Ceg - Bwyd Cymraeg Cynaliadwy wedi cael eu lansio ar stondin Prifysgol Bangor yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.

Roeddem yn awyddus i greu adnodd hyblyg a hygyrch fyddai'n gyfle i ni rannu persbectif a gwybodaeth arbenigwyr yn y maes gyda’r cyhoedd.  Dros y gyfres, gallwch ddisgwyl dod i ddallt mwy am fwydydd lleol Cymreig, am gadwyni bwyd byrrach, a’r cyfle i ddarparu prydau maethlon trwy'r economi fwyd gylchol, yn ogystal â sut mae lleihau gwastraff bwyd yn lleihau allyriadau carbon diangen.
Dr Eifiona Lane,  Darlithydd mewn Daearyddiaeth a Chynllunio Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor

Yn ogystal â’r sgyrsiau, sydd ar gael ar wefan Prifysgol Bangor ac ar lwyfan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Y Porth, bydd y platfform yn cynnig rhestr byr o destunau trafod a gwaith ymchwil ar lein, ac yn edrych ar enghreifftiau o astudiaethau achos o fewn y system fwyd leol gylchol.

Mae'r safle Llond Ceg yn cyflwyno tamaid o wybodaeth am destun cyfoes iawn all cael ei ddefnyddio gan grwpiau ysgol neu Goleg sydd yn dilyn y BACC ar lefel TGAU neu Lefel A ac hefyd grwpiau cymunedol”ychwanegai Dr Lane.

Meddai Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae cronfa grantiau bach y Coleg yn cefnogi nifer o brosiectau diddorol mewn amryw o feysydd pwysig, ac roedd yn bleser gan y Coleg ariannu’r gyfres yma o bodlediadau am fwyd a chynaladwyedd. Mae Dr Eifiona Lane Thomas wedi gweithio’n galed i drefnu a recordio’r cyfweliadau difyr ac edrychwn ymlaen at lansiad y gyfres podlediadau ar faes y sioe eleni.”

Cliciwch yma i fynd i wefan a phodlediadau Llond Ceg

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?