A collage of landscape and maps

Arddangosfa newydd yn gwahodd y cyhoedd i ystyried sut mae tirwedd Cymru’n newid

Arddangosfa amlgyfrwng ryngweithiol newydd yng nghanolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, Pontio rhwng 8-18 Awst sy'n gwahodd y cyhoedd i ystyried sut rydym ni’n gweld y dirwedd o’n cwmpas yn seiliedig ar beth wyddom ni amdani a phwy sy’n dweud wrthym ni amdani.

Yn ôl Llywodraeth Cymru hon yw’r 'ddegawd dyngedfennol' i fynd i'r afael â newid  hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae'r tirweddau rydym ni’n eu hadnabod a’r lleoedd rydym ni’n byw ynddyn nhw yn newid, a dyw Eryri ddim yn eithriad. Mae gen i ddiddordeb gofyn, drwy'r arddangosfa hon, sut rydym ni’n ymdrin â'r gwirionedd yma, a sut mae'r hyn rydym ni’n ei wybod neu'n ei ddysgu am ein tirwedd yn ffurfio ein barn am yr hyn a gredwn ni ddylai ddigwydd iddi yn y dyfodol.
Alex Ioannou

Dywedodd Alex Ioannou,

“Rwyf wedi fy nghyfareddu'n fawr gan y ffordd rydym ni’n ymwneud â thirweddau, ond dechreuodd y syniad ar gyfer yr arddangosfa arbennig hon ar ôl i mi wylio rhaglen ddogfen a gyflwynwyd gan Huw Stephens o'r enw 'The Story of Welsh Art’.

“Roedd y rhaglen ddogfen yn archwilio sut roedd celf yn dylanwadu ar bobl, a’r syniad o Gymreictod a Chymru. Caiff pobl a lleoedd eu darlunio mewn gwahanol ffyrdd trwy gelf - weithiau chwedlonol, weithiau gwerinol. Mae yna weithiau celf am Eryri sy'n portreadu ffermwyr neu bentrefwyr, a darnau eraill yn darlunio hen chwedlau neu deuluoedd brenhinol. Gwelwn gymunedau a thirweddau eang, weithiau'n rhamantaidd ac weithiau'n ffotograffig. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at sut rydym ni’n teimlo am dirwedd dros amser, a'n synnwyr o bwy sy'n 'berchen' arni.”

Wrth roi’r arddangosfa at ei gilydd, roedd Alex yn awyddus i ymwelwyr feddwl am y dirwedd drwy sawl cyfrwng. Yn hyn o beth, gall y rhai a ddaw i weld arddangosfa Newid Eryri ddisgwyl archwilio dogfennau, mapiau a llythyrau o Stad y Penrhyn, a ddarperir trwy Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Gall ymwelwyr hefyd wrando ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan fyfyriwr MA Cyfansoddi yn ymateb i’r thema 'Dyffryn Ogwen'. Gwahoddir ymwelwyr hefyd i gyfrannu at y project ymchwil trwy ddarparu eu disgrifiadau eu hunain o dirwedd Eryri.

Agwedd bwysig o’r arddangosfa yw archwilio sut y gall dysgu mwy am hanes cyfoethog ein tirwedd ddylanwadu ar ein hagwedd at newid yn y presennol.

Ewch i wefan y project: reframing.wales

Cynhelir yr arddangosfa rhwng yr 8fed a’r 18fed o Awst yn y Blwch Gwyn, Lefel 2 Pontio, Bangor – mae’r oriau agor ar y wefan Ar gau 10+11 Awst.

Digwyddiad Arbennig

Ar ddydd Sul, Awst 18fed bydd cyfres o sgyrsiau byr, a bydd deunydd casgliad archif ehangach yn cael ei rannu, yn ogystal â the a choffi rhwng 2-5pm. Bydd Gwilym Bowen Rhys hefyd yn perfformio caneuon gwerin am dirwedd a chymunedau Gogledd Cymru.

Portrait shot of Gwilym Bowen Rhys
Gwilym Bowen Rhys

Cefnogir y project gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor; Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas; Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru; Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts; yr Ysgol Gwyddorau Eigion; yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio; a Pontio.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?