Detholiad o sebonau prototeip

IONA Minerals yn partneru â Phrifysgol Bangor i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu ar Sebon Diwydiannol Eco-Gyfeillgar

Mae cwmni o Ynys Môn yn cymryd y cam nesaf yn eu proses ymchwil a datblygu, diolch i gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Mae sebon wedi bod o gwmpas ers pedair neu bum mil o flynyddoedd ac mae galw mawr am sebonau naturiol yn y farchnad gosmetig ehangach, ond mae’n llai cyffredin mewn defnydd diwydiannol, megis ar gyfer ffermwyr neu fecanyddion sydd angen glanhawr effeithiol iawn.
"Fel rhywun sydd â diddordeb mewn arloesi a datblygu cynnyrch newydd, roeddwn i’n awyddus i ddarganfod a allem ni ddatblygu sebon gyda’r priodweddau cywir i lanhau’r dwylo heb fod yn rhy arw a heb effeithio ar yr amgylchedd. Mae rhai o'r cynhyrchion sydd ar gael yn cynnwys cemegau neu ficroblastigion i ddarparu'r weithred sgraffiniol honno, sydd wedyn yn cael eu golchi i ffwrdd ac yn achosi llygredd amgylcheddol diangen.

 

Selwyn Owen,  Rheolwr-Gyfarwyddwr IONA Minerals

Mae'r cynnyrch y mae IONA Minerals yn ei ddatblygu yn defnyddio deunydd naturiol sy'n cael gwared ar docsinau ac sydd â phriodweddau gwrthficrobaidd a gwrthlidiol. Mae cynhwysion eraill yn cynnwys echdynnyn botanegol sydd wedi ei ddefnyddio yn y Dwyrain Canol ers cannoedd o flynyddoedd ac sy'n ewynnu’n naturiol.

Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil eu hunain, roedd IONA Minerals yn awyddus i weithio gyda’r Ganolfan Biogyfansoddion a manteisio ar eu harbenigedd helaeth mewn deunyddiau i symud eu syniadau cynnar iawn o ran cynnyrch yn eu blaenau.

“Rhan o’n hymchwil a datblygu yw dod o hyd i'r maint gronynnau priodol ar gyfer y deunydd naturiol sy'n cael ei ychwanegu at y sebon - os ydynt yn rhy fawr yna mae'n rhy arw, os ydynt yn rhy fach yna nid yw'n glanhau nac yn diblisgo’n ddigonol," meddai Selwyn. "Fe wnaethon hefyd arbrofi gyda gwahanol fasau ar gyfer y sebon, i weld pa un oedd yn ein galluogi i ddosbarthu’r deunydd yn gyfartal trwy’r sebon. Fe wnaethon edrych hefyd ar wahanol ffyrdd o ychwanegu'r echdynnyn botanegol; er enghraifft gan ddefnyddio'r powdr cyfan o'r ddeilen wedi ei melino, ac echdyniad dyfrllyd i werthuso'r gwahanol ganlyniadau.

Cyflymu'r broses...

"Mae gweithio gyda’r Ganolfan Biogyfansoddion yn sicr wedi cyflymu’r hyn rydyn ni wedi gallu ei wneud. Mae tîm technegol Mona wedi rhoi llawer o gyngor i ni, ac rydym wedi mabwysiadu hynny fel cwmni. Nawr mae gennym rai samplau prototeip i ddangos i gwsmeriaid posibl ac er mwyn cynnal treialon, er bod gennym dal waith i'w wneud cyn i'r cynnyrch gael ei ardystio a chyn y bydd yn barod ar gyfer y farchnad. Er enghraifft, mae angen i ni edrych ar liw, pecynnu, persawr a beth sydd orau gan ein cwsmeriaid posibl o ran maint a siâp y sebon. Y peth pwysig yw bod y syniad yn cael ei wireddu, ac rwy’n meddwl, yn hynny o beth, mae’r daleb wedi cyflawni ei phwrpas ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ragorol a ddarparwyd o ran ymchwil a datblygu"

Ychwanegodd Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion, “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cydweithio ag IONA Materials i ddatblygu’r prototeipiau hyn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth am fioddeunyddiau. Fe wnaethom lawer o waith gyda busnesau o Gymru a oedd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd bioseiliedig ar gyfer twf fel rhan o broject Beacon, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae gan y ganolfan yr adnoddau i helpu cwmnïau i dreialu deunyddiau, i dynnu’r risg allan o ddatblygu syniadau ac i helpu i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd, gydag allbynnau diriaethol."

Dywedodd Nicola Sturrs, sef Rheolwr Datblygu Busnes y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ym Mhrifysgol Bangor,

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesedd i IONA Minerals.  Mae ein cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd wedi bod yn hynod boblogaidd, ac rydym wedi derbyn llawer iawn o ddiddordeb gan fusnesau ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/business-services/cynllun-talebau-sgiliau-ac-arloesedd

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?