block of yellow colour

Tair myfyrwraig Bydwreigiaeth o Fangor ymysg y rhai cyntaf i dderbyn Bwrsariaeth Cronfa Dr Llŷr Roberts

Bydd tair myfyrwyr sy’n astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, Hana Jones, Mia Owen a Seren Mai, yn teithio i Sri Lanka i gael profiad o weithio yn yr adrannau geni yn yr ysbytai yno.

Roedd Llŷr yn ŵr eang iawn ei orwelion ac yn un a wnaeth gymaint i arloesi ym maes addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n hynod o addas felly fod y fwrsariaeth deithio a sefydlwyd yn ei enw yn mynd i alluogi tair myfyrwraig sy’n astudio Bydwreigiaeth drwy’r Gymraeg yma ym Mangor i gael profiad o weithio yn Sri Lanka.

Dr Llion Jones,  Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?