Coedwig

Coedwigoedd aeddfed yn hanfodol ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd

Datgela astudiaeth newydd fod gan goedwigoedd aeddfed rôl allweddol i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd – sef echdynnu carbon deuocsid (CO2) o'r atmosffer a'i gloi mewn pren newydd.

Mae coedwigoedd yn dyrannu carbon yn yr ecosystem uwchben ac oddi tan y ddaear a hynny mewn ymateb i'r adnoddau sydd ar gael. Mae data am gynhyrchiant gwreiddiau mân a data morffolegol a gasglwyd gan Brifysgol Bangor yn gwella ein dealltwriaeth o ddeinameg carbon coedwigoedd a’r strategaethau caffael maetholion sydd eu hangen er mwyn cynnal tyfiant coed pan fo lefelau uwch o CO2.
Mae gan ein canlyniadau oblygiadau pwysig o ran sut y caiff datblygiad coedwigoedd y dyfodol ei fodelu ym modelau system y Ddaear, gyda’r posibilrwydd o fireinio rhagfynegiadau ynghylch yr effaith ar ddynoliaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Yr Athro Andy Smith ,  Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor

Dechreuodd arbrawf FACE BIFoR yn 2017 gan fesur effaith lefelau uwch o CO2 ar gynhyrchiant pren trwy ddefnyddio sganio laser i drawsnewid diamedrau coed yn fàs prennaidd. Cyfrifodd gwyddonwyr swm net y cynhyrchiant (NPP) trwy gyfuno cynhyrchiant pren y derw a’r isdyfiant gyda chynhyrchiant dail, gwreiddiau mân, blodau a hadau, a chyda faint o garbon organig sy’n cael ei ryddhau gan y gwreiddiau.

Canfu ymchwilwyr fod yr NPP 9.7% a 11.5% yn fwy mewn CO2 uchel nag mewn amodau amgylchynol yn 2021 a 2022, yn y drefn honno - cynnydd o tua 1.7 tunnell o ddeunydd sych fesul hectar y flwyddyn. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd o ganlyniad i gynhyrchu pren ac nid oedd unrhyw newid yng nghynhyrchiant gwreiddiau mân na dail.

Bydd arbrawf FACE BIFoR yn parhau i’r degawd nesaf, gan ddarparu cyfleoedd i ddadansoddi ymatebion hirdymor a rhyngweithiadau â ffactorau amgylcheddol eraill.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?