Busnes yw hwn sy'n darparu gwasanaethau a chynhyrchion yn fyd-eang i'r diwydiannau lled-ddargludyddion ac electroneg, gan arbenigo mewn pecynnu deiau mewnblanedig (EDP), a chawsant ddwy daleb.
Roedd y daleb gyntaf ar gyfer gwneud ymchwil academaidd gyda Chanolfan Biogyfansoddion a Gwyddonydd Deunyddiau'r Brifysgol, Dr Athanasios Dimitriou, i resin diwenwyn y gellir ei ddefnyddio i fewnblannu sglodion electronig mewn dyfeisiau.
Roedd yr ail daleb ar gyfer cynnal interniaeth raddedig tri mis, a lenwyd yn llwyddiannus gan y cyn-fyfyriwr Peirianneg Electronig Lili McDonald Mawdesley, o Lanfairfechan, sydd bellach wedi sicrhau swydd barhaol fel peiriannydd prosesau.
Dywed y Rheolwr Cyffredinol, Peter Green, fod y cynlluniau hirdymor yn cynnwys cynyddu eu gweithlu presennol i fod bum gwaith yn fwy - ar hyn o bryd maen nhw'n cyflogi 11 o staff - a sefydlu ffatri weithgynhyrchu yn y rhanbarth.
“Ein gweledigaeth yw parhau i dyfu’r busnes yma yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan fod gennym ni dîm anhygoel o bobl, sydd i gyd yn dod o’r rhanbarth hwn, sy’n hanfodol i’n llwyddiant,” meddai Peter, a ymunodd â RAM Innovations y llynedd yn dilyn mwy na dau ddegawd o weithio ym maes amddiffyn a pheirianneg.
“Rydym wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a nawr gan y Project Talebau Sgiliau ac Arloesedd, sydd wedi bod yn wych i ni, ac yn y pen draw i Lili, sydd wedi ennill profiad a chael swydd gyda’r cwmni.
“Yn draddodiadol hanfod y busnes oedd ymchwil a datblygu ond yn y tymor hir mae ein golygon ar weithgynhyrchu, ac ar ein taith i sero net, a bydd yr ymdrechion i wireddu’r ddau beth yma yn cael eu cynyddu yn y blynyddoedd nesaf.
“Ni yw un o’r ychydig gwmnïau peirianneg yn y wlad sy’n gwneud gwaith ymchwil a datblygu, felly mae lle i ni ehangu, a gyda Lili, sy’n ychwanegiad gwych i'r tîm ar adeg pan mae gwir angen am fwy o beirianwyr cymwysedig yn y rhan hon o'r byd - rydym ar ein ffordd i gyflawni ein nod.
"Yn y pen draw rydym yn bwriadu cyflogi mwy na 60 o bobl ar y safle. Mae gennym gwsmeriaid gwych ac mae llawer o le i ddatblygu'r busnes, felly mae'n amser cyffrous i ni."
Ychwanegodd: "Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Bangor. Mae hwn yn gynllun gwych i fusnesau bach a chanolig yng Ngwynedd, Ynys Môn, a Sir y Fflint ac yn bwysig iawn mae'n rhoi cyfle i raddedigion ifanc ddysgu sgiliau newydd a, gobeithio, dod o hyd i swydd lawn amser er mwyn cychwyn ar yrfa."
Wrth sôn am ei rôl newydd, dywedodd Lili: “Roedd y Brifysgol yn gefnogol iawn ac fe wnaethon nhw fy helpu i wneud cais ar ôl dangos i mi pa gyfleoedd oedd ar gael.
“Dwi wir wedi mwynhau fy amser efo RAM Innovations ac mae gen i wastad ddiddordeb wedi bod mewn peirianneg, felly mae cael bod yn y sector bellach a dechrau fy ngyrfa gyda’r cwmni yn wych.”
Datgelodd Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor, Nicola Sturrs, fod cyfanswm o 40 o Dalebau Sgiliau ac Arloesedd wedi’u rhoi i gwmnïau hyd yma.
“Dyma enghraifft wych o ba mor werthfawr mae’r cynllun hwn wedi bod, yn darparu cyfleoedd sy’n arwain at gyflogaeth ac yn rhoi cefnogaeth wedi’i ariannu’n llawn i’r busnes i wneud ymchwil a chynnig lleoliadau gwaith,” meddai Nicola.
“Rydyn ni wrth ein boddau bod yr interniaeth wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac yn dymuno pob lwc i Lili a RAM Innovations yn y dyfodol.”
Ariennir y project Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar ran Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir y Fflint.
Mae tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth.
Y tri math yw: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng pump ac wyth diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth; aTalent: gyda gwerth o hyd at £5,000 ar gyfer interniaeth raddedig 12 wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Ewch i wefan RAM Innovations i weld y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am y cwmni.