Cwmni coed yn ehangu busnes i farchnadoedd a thiriogaethau newydd gyda chefnogaeth prifysgol
Cwmni coed sydd mewn bodolaeth ers bron i bum mlynedd yn ehangu ei fusnes i farchnadoedd a thiriogaethau newydd gyda chefnogaeth prifysgol flaenllaw.
Mae Snowdon Timber wedi goroesi’r heriau fu ers y pandemig ac wedi tyfu'n sylweddol yn ddiweddar.
Cafodd y busnes ei lansio yn 2019 gan Jody Goode, o Hen Golwyn ac mae’r cwmni bellach yn cyflogi 14 o staff yn ei safleoedd ym Mochdre a Bangor.
Mewn warws 20,000 troedfedd sgwâr ar Ystad Ddiwydiannol Llandegai mae pencadlys y busnes, ac yno maent yn cyflenwi amrywiaeth o gynhyrchion – gan gynnwys decin, trawstiau sylfaen, a choed tân – i gwsmeriaid gan gynnwys adwerthwyr cenedlaethol.
A hwythau â chynlluniau i ehangu ymhellach, cysylltodd Jody â Phrifysgol Bangor i fanteisio ar y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd (SIV), sy’n cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint gydweithio drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gwnaeth Snowdon Timber gais llwyddiannus am daleb sgiliau ac arloesedd er mwyn gwneud ymchwil academaidd ac ar hyn o bryd maent yn cael cefnogaeth gan academyddion yn Ysgol Busnes Bangor i wella eu llwyfannau gwerthu ar-lein ymhellach.
Mae'r cwmni hefyd wedi cymryd myfyriwr graddedig o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ar leoliad tri mis i gynorthwyo gyda meysydd e-fasnach a marchnata.
“Mae’r cynllun yma’n wych. Dan ni’n edrych ymlaen at weld pa fanteision gawn ni yn y tymor hir,” meddai Jody, fu’n gweithio yn y fasnach goed ryngwladol am ddegawd cyn lansio’r cwmni.
“Dan ni’n mewnforio o bob rhan o’r byd – yn enwedig o Ddwyrain Ewrop – ac yn tyfu’n gynaliadwy, felly bydd cael mynediad at yr wybodaeth a’r adnodd ychwanegol yma’n golygu y byddwn ni’n gallu cymryd y camau nesaf fel busnes.”
Ychwanegodd: “Cafodd y sector yma ei daro’n galed wrth ddod allan o’r pandemig wrth i gostau gynyddu ac wrth i bris pren ostwng gan 40%, felly dan ni wedi gorfod goresgyn llawer o rwystrau.
“Ond yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf dan ni wedi bownsio’n ôl ac rydan ni bellach yn canolbwyntio ar gryfhau ein presenoldeb ar-lein, a gweithio ar feddalwedd, awtomeiddio a thechnoleg e-fasnach, fel y gallwn fanteisio ar y sefyllfa rydan ni ynddi.
“Dwi’n siŵr yn sgil y cydweithio yma y gallwn ni ddadansoddi’r data, ei ddefnyddio er mwyn i ni gael mantais fasnachol a gosod y sylfeini ar gyfer twf pellach wrth symud ymlaen.”
Datgelodd Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor, Nicola Sturrs, fod cyfanswm o 40 o Dalebau Sgiliau ac Arloesedd wedi’u rhoi i gwmnïau ar draws y rhanbarth.
“Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o ddiddordeb gan fusnesau bach a chanolig sy’n arbennig o awyddus i gydweithio â’n hacademyddion a darparu cyfleoedd i raddedigion,” meddai Nicola.
“Mae’n gyffrous gweld sut mae’r bartneriaeth gyda Snowdon Timber yn datblygu ac rydyn ni’n siŵr y bydd yn cael effaith gadarnhaol.”
Ariennir y project Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar ran Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir y Fflint.
Mae tri math o daleb ar gael, y gellir eu hadbrynu mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth.
Y tri math yw: Midi: Hyd at £5,000 am rhwng pump ac wyth diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am rhwng 10 a 15 diwrnod o gefnogaeth; a Talent: gyda gwerth o hyd at £5,000 ar gyfer interniaeth raddedig 12 wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Ewch i wefan Snowdon Timber i weld y newydd a’r wybodaeth ddiweddaraf.