Edrychodd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield a'r Academi Brydeinig, ar effaith cysylltiadau cymunedol a chymdeithasol ar allu pobl i gael mynediad at gyngor a chymorth i ddatrys problemau lles cymdeithasol.
Canfuwyd bod maint rhwydweithiau cymdeithasol pobl a’r cysylltiadau rhyngddynt yn darparu cymorth cyfyngedig i ddatrys y problemau lles cymdeithasol y maent yn eu hwynebu. Y ffactor bwysicaf yw natur y broblem ei hun: mae problemau gyda budd-daliadau a phroblemau ariannol fel arfer yn haws eu datrys o gymharu â phroblemau sy’n ymwneud â thai, gofal cymdeithasol, anghenion addysgol arbennig ac iechyd meddwl.
Meddai’r prif ymchwilydd Dr Sarah Nason, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor: “Dyled, budd-daliadau, anghenion addysgol arbennig, problemau gofal iechyd, mae'r rhain i gyd yn broblemau bob dydd y mae llawer ohonom yn eu hwynebu, ac mae’n hollol naturiol troi at bobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt am gymorth a chyngor. Ond rydym wedi canfod bod gorfod siarad â mwy o bobl neu wasanaethau cefnogi yn arwydd bod y broblem yn fwy cymhleth ac anodd ei datrys.”
Astudiodd y tîm bedair ardal wahanol ar draws Cymru a Lloegr: Bryngwran, pentref ym Môn yng ngogledd Cymru; Deeplish, rhan o Rochdale ar gyrion Manceinion; Dartmouth, tref yn Nyfnaint; a thair ward ym mwrdeistref Hackney yn Llundain.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau unigol gyda 191 o bobl i gyd, gan fapio gyda phwy roedd y cyfranogwyr yn siarad yn rheolaidd, megis ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu wirfoddolwyr cymunedol, ac at bwy y gallent droi gydag unrhyw broblemau’n ymwneud â lles cymdeithasol. Gofynnwyd iddynt hefyd faint o'r cysylltiadau hyn oedd yn adnabod ei gilydd, er mwyn gweld faint o gysylltiadau oedd gan yr unigolyn yn ei rwydwaith cymdeithasol.
Siaradodd yr ymchwilwyr hefyd â sefydliadau cymunedol ac awdurdodau lleol, gan nodi ffynonellau o gyngor ffurfiol ac anffurfiol a chefnogaeth gymunedol ym mhob ardal.
Canfuwyd bod gan unigolion a oedd yn byw yn y cymunedau gwledig yn Nyfnaint a gogledd Cymru rwydweithiau mwy gyda mwy o gysylltiadau, o gymharu â rhwydweithiau gyda llai o bobl a llai o gysylltiadau yn y lleoliadau trefol yn Hackney. Yn Deeplish yn Rochdale, roedd y rhwydweithiau cymdeithasol yn gymharol fach, ond gyda chysylltiadau eithaf da. Roedd hyn yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn Deeplish yn dod o Dde Asia a ganddynt hwy oedd y rhwydweithiau gyda'r gyfran uchaf o aelodau'r teulu ynddynt. Roedd gan y bobl wyn a nododd eu bod yn Saeson rwydweithiau cymdeithasol llai yn gyffredinol na'r rhai a nododd eu bod yn Brydeinwyr neu'n Gymry. Roedd y rhwydweithiau mwyaf cysylltiedig ymhlith pobl a nododd eu bod yn Gymry.
Canfu'r ymchwilwyr hefyd fwy o debygrwydd rhwng rhwydweithiau cymdeithasol ym mhob cymuned yn yr astudiaeth na rhwng rhai pobl gyda nodweddion unigol, megis oedran, rhyw, statws cyflogaeth neu anabledd yn ardaloedd yr astudiaeth.
Meddai Dr Nason: “Nid bwriad ein hymchwil yw bod yn gynrychioliadol yn ystadegol o’r ardaloedd yn yr astudiaeth, gan mai dim ond grŵp cymharol fach o bobl ym mhob cymuned y bûm yn eu cyfweld. Ond o'r cyfweliadau hynny ac o'n dadansoddiadau, mae lleoliad ac ethnigrwydd yn ymddangos yn ffactorau pwysig er mwyn deall sut mae pobl yn ymwneud â'u cymuned ac yn ceisio cefnogaeth. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd darparu cefnogaeth a chyngor sy’n lleol, yn gymunedol ac yn ddiwylliannol sensitif yn hytrach na darparu gwasanaethau ‘yr un fath i bawb’ ar lefel genedlaethol.”
Er bod llawer o wasanaethau'n symud i 'ddigidol yn ddiofyn' yn hytrach na chynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb, nid oedd gwasanaethau digidol yn bodloni anghenion llawer o bobl. Ym mhob ardal yn yr astudiaeth, dywedodd y cyfranogwyr fod cael gafael ar gefnogaeth a chyngor yn lleol ac yn y cnawd yn bwysig iddynt, ac roedd llawer o bobl yn ystyried bod mynediad lleol yn hanfodol.
Er y gwahaniaethau rhwng y pedair ardal yn yr astudiaeth, canfu'r ymchwilwyr mai dim ond effaith gyfyngedig oedd maint a chysylltiad rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gael ar y tebygolrwydd y byddai problemau lles cymdeithasol pobl yn cael eu datrys.
Y ffactor fwyaf wrth ddatrys problemau oedd natur y broblem ei hun. Yn y pedair ardal, roedd pobl â phroblemau’n ymwneud â budd-daliadau lles neu broblemau ariannol yn fwy tebygol o fod wedi cael cymorth gan wasanaethau cynghori ffurfiol a chael datrys eu problemau na phobl gyda phroblemau’n ymwneud â thai, gofal cymdeithasol, darpariaeth anghenion addysgol arbennig neu wasanaethau iechyd meddwl.
“Mae yna brosesau sydd wedi hen ennill eu tir i ddelio ag anghydfodau lles neu ddyled, ac er y gall y rhain fod yn frawychus, gyda chefnogaeth a’r cyngor cywir mae’r problemau hyn yn cael eu datrys yn gyffredinol,” meddai Dr Nason. “Ond mae’n amlwg bod y problemau oedd leiaf tebygol o gael eu datrys yn ymwneud â gwasanaethau awdurdodau lleol sydd wedi dioddef toriadau sylweddol yn y gyllideb dros y degawdau diwethaf, a lle mae gwasanaethau wedi eu hymestyn i’r fath raddau nad ydynt yn gallu dod i ben â’u gwaith mwyach. Ni all rhwydweithiau cymdeithasol cryfach a mwy o gefnogaeth a chyngor wneud iawn yn llwyr am y diffyg buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus.”
Ffactorau eraill oedd yn effeithio ar allu pobl i gael cefnogaeth oedd diffyg addysg ynglŷn â hawliau, ymwybyddiaeth gyfyngedig o wasanaethau cynghori, teimladau o stigma neu gywilydd wrth geisio cymorth, a cholli ffydd yn y wladwriaeth. Ond roedd arwyddocâd pob un o'r ffactorau hyn yn wahanol yn ardaloedd yr astudiaethau. Er enghraifft, roedd stigma/cywilydd yn cael ei ystyried yn broblem benodol yng nghefn gwlad gogledd Cymru, roedd diffyg addysg ffurfiol yn her yn Rochdale, ac roedd diffyg ffydd yn y wladwriaeth ar ei uchaf ymhlith cymunedau ymylol yn Dartmouth a phobl iau yn Hackney.
Mae’r astudiaeth yn pwysleisio’r rhan bwysig a chwaraeir gan ganolfannau neu hybiau cymunedol, sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau lleol, gan gynnwys cyngor ar les cymdeithasol. Ond mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio bod y sefydliadau hyn yn aml yn brin o adnoddau ac na allant gymryd lle gwasanaethau cyngor cyfreithiol mwy ffurfiol.
“Ym mhob un o’r cymunedau yn yr astudiaeth, roedd pobl yn wirioneddol werthfawrogi hybiau neu ganolfannau lleol sy’n darparu cymorth pob dydd fel banciau bwyd,” meddai Dr Nason. “Ond mae angen cyngor cyfreithiol arbenigol ar rai problemau y mae pobl yn eu hwynebu, ac mae’r canolfannau cymunedol hyn yn dibynnu ar allu cyfeirio pobl at wasanaethau mwy ffurfiol. Heb gyllid priodol i’r sector cynghori ffurfiol, bydd y problemau’n parhau. Efallai bod cymunedau’n gallu cael cymorth, ond nid ydynt yn gallu cael mynediad at gyfiawnder.”
I weld yr adroddiad ewch i https://swladviceandcommunities.com/