Er mwyn cefnogi ymdrechion ailgoedwigo byd-eang a hyrwyddo arferion digidol cynaliadwy mae Prifysgol Bangor nawr yn defnyddio Ecosia fel ei pheiriant chwilio diofyn. Daeth y newid i rym heddiw, dydd Gwener, 1 Tachwedd. Awgrymiad ydoedd gan fyfyriwr yn lansiad ymgyrch 25erbyn25 y Brifysgol.
Cynhaliwyd ymchwil cychwynnol ar y pwnc, o dan arweiniad Dr Edward T Jones yn Ysgol Busnes Bangor, ac ymgynghorwyd â staff a myfyrwyr, a oedd yn hynod gadarnhaol. Ecosia, yw peiriant chwilio dielw mwyaf y byd.
Mae’n neilltuo 100% o'i elw i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, yn bennaf trwy brojectau ailgoedwigo ledled y byd. I nodi'r achlysur plannwyd coeden Hamamelis Intermedia Firecracker yn y Cwad Allanol.
Hyd yma, plannodd Ecosia fwy na 218 miliwn o goed mewn dros 35 o wledydd. O ddefnyddio Ecosia, bydd pob chwiliad ar ddyfeisiau'r Brifysgol yn cyfrannu at genhadaeth Ecosia o adfer mannau lle mae problemau o ran bioamrywiaeth ac ymladd yn erbyn datgoedwigo.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor ac arweinydd ar gyfer Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r bartneriaeth gydag Ecosia yn cyd-daro’n berffaith â’n nodau cynaliadwyedd. Roedd hanes Ecosia o weithredu amgylcheddol cyfrifol yn ei wneud yn ddewis delfrydol a ninnau’n ymdrechu i sicrhau effaith gadarnhaol yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi sefydliad sy’n blaenoriaethu’r blaned.”
Ychwanegodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, “Rwy’n edrych ymlaen at weld dangosfwrdd Ecosia’r Brifysgol yn dangos inni faint o goed rydyn ni wedi helpu eu plannu o’n swyddfeydd. Mae newid i Ecosia yn gam bach inni, ond mae canlyniadau mawr i’r byd.”
Dywedodd Fred Henderson, Rheolwr Llwyddiant Defnyddwyr Ecosia, “Mae'n wych gweld Prifysgol Bangor yn ymuno â'r nifer cynyddol o sefydliadau sy’n ymrwymo i ddefnyddio Ecosia. Trwy osod Ecosia’n beiriant chwilio diofyn, mae Prifysgol Bangor yn dangos ymrwymiad mawr i gyfrifoldeb amgylcheddol ac ysbrydoli eraill yn y sector academaidd.”
Mae'r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gynaliadwyedd ac mae’n atgyfnerthu ei rôl fel arweinydd mewn cyfrifoldeb amgylcheddol yn y gymuned academaidd.