Rhoddwyd KiVa, sef rhaglen atal bwlio, ar waith fel rhan o dreial blwyddyn o hyd mewn dros 100 o ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr a bu dros 11,000 o ddisgyblion yn rhan ohoni. Gwnaeth leihau achosion o fwlio yn sylweddol ac roedd yr un mor effeithiol ar draws ysgolion cymdeithasol-economaidd amrywiol, yn ogystal â mewn ysgolion gwledig bach a rhai mawr, trefol. Cyllidwyd yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Mae rhaglen ‘KiVa’ yn canolbwyntio ar ymddygiad pob plentyn ac yn pwysleisio'r rôl y gall gwyliedyddion ei chwarae. Roedd plant mewn ysgolion lle rhoddwyd y rhaglen ar waith 13% yn llai tebygol o adrodd eu bod yn cael eu bwlio, o gymharu ag ysgolion a oedd yn defnyddio gweithdrefnau safonol. Dywedodd yr ysgolion sy'n defnyddio KiVa hefyd fod eu plant yn fwy empathetig tuag at ddioddefwyr a bod problemau plant gyda'u cyfoedion wedi lleihau. Canfu dadansoddiadau economaidd gan economegwyr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Bangor fod KiVa hefyd yn ymyrraeth cost isel, sy’n arbennig o bwysig o ystyried cyfyngiadau cyllidebol mewn ysgolion.
Dywedodd yr Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Bwlio yn ystod plentyndod yw un o’r ffactorau risg mwyaf ar gyfer problemau iechyd meddwl yn hwyrach mewn plentyndod ac yn ystod llencyndod a thu hwnt. Yn anffodus, mae’n gyffredin yn ysgolion y Deyrnas Unedig; ac er ei bod yn ofynnol bod gan bob ysgol bolisi bwlio, anaml y mae'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae dull ‘ysgol gyfan’ KiVa wedi cael effaith sylweddol ar fwlio mewn gwledydd eraill oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar ymddygiad pawb, ac yn cael gwared ar y gwobrau cymdeithasol y mae’r sawl sy’n gwneud y bwlio yn eu cael fel arfer.”
Mae'r rhaglen Kiusaamista Vastaan (“Gwrth-Fwlio”) o’r Ffindir, neu KiVa, yn seiliedig ar ymchwil sy’n dangos bod gan wyliedyddion – plant sy’n bresennol, ond nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol ag achosion o fwlio – ran fawr i’w chwarae wrth amddiffyn y dioddefwr, gan wneud bwlio yn llai derbyniol yn gymdeithasol, a thrwy hynny leihau cymhelliant y sawl sy’n bwlio.
Yr ymchwil hwn yw'r treial hapsamplu rheolyddedig mwyaf o'r rhaglen KiVa a gynhaliwyd y tu allan i'r Ffindir hyd yma, ac roedd yn cynnwys 118 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr. Penderfynodd hanner yr ysgolion fabwysiadu dull KiVa, a phenderfynodd yr hanner arall barhau gyda’r ymarfer safonol. Casglwyd data gan 11,111 o ddisgyblion a lenwodd arolygon am fwlio, ac o holiaduron ymddygiad disgyblion a lenwyd gan athrawon am 11,571 o ddisgyblion, cyn ac ar ôl y treial. Bu’r treial yn rhedeg am flwyddyn academaidd lawn. Fodd bynnag, cynlluniwyd KiVa i gael ei wreiddio’n rhan o ymarfer parhaus mewn ysgolion ac mae llawer o ysgolion a fu’n cymryd rhan yn y treial yn parhau i ddefnyddio'r rhaglen.
Roedd yr ysgolion a oedd yn dilyn KiVa fel rhan o’r treial wedi trefnu gwersi bob pythefnos i ddisgyblion, ac roedd y gwersi hynny’n canolbwyntio ar adnabod bwlio, ymateb iddo a helpu i gefnogi dioddefwyr. Cynhaliwyd hefyd wasanaethau ysgol gyfan am fwlio, ymgyrchoedd posteri a rhannwyd gwybodaeth â rhieni. Roedd yr athrawon a oedd yn goruchwylio amser egwyl yn gwisgo siacedi llachar. Ar gyfer pob digwyddiad o fwlio a nodwyd, dilynodd staff y camau a argymhellwyd gan KiVa. Yn hytrach na’r ymateb traddodiadol o feio a chosbi’r bwli, cafodd yr ysgolion drafodaethau unigol gyda’r plant dan sylw, a gwnaethant yn siŵr bod y disgybl a oedd yn gwneud y bwlio yn ymrwymo i gamau clir i gefnogi’r dioddefwr.
Arweiniwyd y project yn gyffredinol gan Brifysgol Bangor, gan weithio gyda Phrifysgolion Caerwysg, Rhydychen, Warwick a Birmingham, a rheolwyd y treial ei hun gan Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd. Yr elusen Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, sydd â thrwydded lledaenu KiVa yn y Deyrnas Unedig, oedd yn gyfrifol am y costau ymyriad, yr hyfforddiant i ysgolion a’r gwaith gweithredu.
Mae canlyniadau’r treial yn y Deyrnas Unedig, a ddangosodd gostyngiad o 13% mewn bwlio, yn llai trawiadol na chanlyniadau astudiaethau cynharach a wnaethpwyd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Fodd bynnag, cynhaliwyd treial y Deyrnas Unedig yn ystod pandemig Covid-19, lle gwelwyd tarfu mawr ar ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth a lefelau sylweddol uwch o absenoldebau, ac mae ymchwilwyr yn credu y gallai hyn fod wedi effeithio ar y canlyniadau.
Dywedodd Lucy Bowes, Athro Seicopatholeg ym Mhrifysgol Rhydychen: “Gall cael eich bwlio gael canlyniadau dinistriol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cynyddu’r risg o anawsterau iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder ysbryd, yn ogystal â chanlyniadau addysgol gwael. Mae hyn yn golygu bod unrhyw welliant yn werth chweil a gall hyd yn oed newidiadau bach gael effaith sylweddol ar y plant unigol hynny, gan gyfrannu’n gronnol at wella sefyllfa'r ysgol dros amser. Mae data’r Ffindir yn dangos gwelliannau fesul blwyddyn dros saith mlynedd yn yr ysgolion sy’n parhau â’r rhaglen. Mae mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion yn bryder iechyd cyhoeddus mawr, ac mae gwerthuso rhaglenni gwrth-fwlio a ddefnyddir yn ein hysgolion yn hanfodol.”
Cyhoeddir ‘The effects and costs of an anti-bullying programme (KiVa) in UK primary schools: a multicentre cluster randomised controlled trial’ yn Psychological Medicine.
Mae trin bwlio fel problem pawb yn lleihau nifer yr achosion mewn ysgolion cynradd
Mae’r treial mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig wedi dangos sut y gall rhaglen gwrth-fwlio strwythuredig, cost isel wella dynameg gymdeithasol mewn ysgolion cynradd a lleihau erledigaeth.