Mae adar mudol yn adnabyddus am eu gallu i hedfan am filoedd o gilometrau i gyrraedd eu tiroedd magu neu aeafu. Canfu ymchwil gan Brifysgol Bangor a gyhoeddwyd gan Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences fod yr adar, ac yn yr achos hwn, telor y cyrs Ewrasiaidd (Acrocephalus scirpaceus) yn defnyddio goledd a gogwydd magnetig y Ddaear yn unig i bennu eu lleoliad a'u cyfeiriad. Mae hynny’n herio'r gred hirsefydlog bod holl elfennau maes magnetig y Ddaear, yn enwedig dwysedd cyfan, yn hanfodol ar gyfer awyrlywio cywir.
Credai gwyddonwyr ers tro fod yr adar yn defnyddio system ‘map-a-chwmpawd': yn gyntaf maent yn pennu eu lleoliad gyda "map" ac yna maent yn defnyddio "cwmpawd" i’w cyfeirio eu hunain i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, bu union natur y ‘map’ yn destun dadl barhaus.
Mewn arbrawf manwl a gofalus, roedd y teloriaid yn agored i werthoedd goledd a gogwydd magnetig a newidiwyd yn artiffisial, sy’n efelychu’r dadleoli ar leoliad daearyddol gwahanol gan gadw dwysedd magnetig cyfan yn ddigyfnewid.
Er gwaethaf y ‘dadleoli rhithwir’, addasodd yr adar eu llwybrau mudol megis pe baent yn y lleoliad newydd, a dangos ymddygiad cydadferol. Mae'r ymateb hwnnw’n awgrymu y gall adar dynnu gwybodaeth leoliadol a chyfeiriadol o giwiau magnetig, hyd yn oed pan fo elfenau eraill maes magnetig y Ddaear, megis dwysedd cyfan, yn aros yn ddigyfnewid.
Rhoddodd yr ymchwil dystiolaeth gref fod adar mudol yn dibynnu ar oledd a gogwydd i bennu eu lleoliad, hyd yn oed pan fo'r ciwiau hynny’n gwrthdaro ag elfennau eraill y maes magnetig.
“Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y canfyddiadau’n datgelu nad oes angen holl elfennau maes magnetig y Ddaear ar yr adar o reidrwydd i bennu eu lleoliad,” meddai'r Athro Richard Holland, sy'n arbenigo mewn ymddygiad anifeiliaid ac a arweiniodd yr astudiaeth.
“Gallant ddibynnu'n llwyr ar oledd a gogwydd, a ddefnyddir hefyd gyda chyfeiriadedd y cwmpawd, i dynnu eu lleoliad.”
Mae'r astudiaeth yn herio’r rhagdybiaethau blaenorol bod holl elfennau maes magnetig y Ddaear, yn enwedig y dwysedd cyfan, yn angenrheidiol ar gyfer awyrlywio cywir.
“Ni wyddys a yw adar yn defnyddio dwysedd cyfan maes magnetig y Ddaear i awyrlywio mewn cyd-destunau eraill, ond yr hyn yr ydym wedi'i ddangos yw bod y ddwy elfen hon - goledd a gogwydd magnetig - yn ddigon i ddarparu gwybodaeth leoliadol,” esboniodd Richard.
Mae'r darganfyddiad hwn yn hybu dealltwriaeth o ran sut mae adar yn awyrlywio ac yn cefnogi'r ddamcaniaeth bod gan adar system lywio fewnol gymhleth a hyblyg. Mae'r mecanwaith hwn yn fodd iddynt addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd, hyd yn oed os byddant yn dod ar draws amodau nad ydynt erioed wedi'u profi o'r blaen.
Mae'r canfyddiadau'n agor llwybrau newydd i ymchwil sy’n ymwneud â llywio ymhlith anifeiliaid a gall fod goblygiadau i astudiaethau biolegol ehangach, gan gynnwys sut mae anifeiliaid yn rhyngweithio â'u hamgylchedd ac yn ei ddehongli.