I fynd i’r afael â hyn, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu offer adsefydlu newydd, y gall goroeswyr strôc eu defnyddio eu hunain er mwyn gwella ynghynt ac yn annibynnol.
Cefnogir y project gan Raglen Grantiau Ymchwil Bach BA/Leverhulme yr Academi Brydeinig, sydd â’r nod o ddylunio, gweithgynhyrchu a phrofi prototeipiau o offer adsefydlu fforddiadwy, deniadol ac oedran-briodol. Mae’r offer yn seiliedig ar ddamcaniaethau ynghylch dysgu sgiliau echddygol ac adborth gan gleifion. Y bwriad yw bod cleifion strôc yn rheoli eu hadsefydliad y tu allan i sesiynau therapi dan oruchwyliaeth, gan wella canlyniadau hirdymor er mwyn lleihau straen ar wasanaethau clinigol.
Dywedodd Dr Ayelet Sapir, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg, sy’n arwain y gwaith hwn, "Mae goroeswyr strôc yn wynebu namau echddygol sy'n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gyflawni tasgau beunyddiol. Gall yr ymarferion adsefydlu a roddir i gleifion ar hyn o bryd fod yn ailadroddus ac yn hawdd colli diddordeb ynddyn nhw heb oruchwyliaeth gyson gan glinigwyr. Ein nod yw dylunio, cynhyrchu a phrofi prototeipiau o offer adsefydlu newydd, y gall cleifion eu defnyddio eu hunain i gyflymu adferiad eu symudiadau echddygol ar ôl strôc.”
Yn gweithio ar y project ochr yn ochr â hi mae Dr Gavin Lawrence, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Sgiliau Echddygol, Datblygu Talent ac Arbenigedd. Ychwanega yntau "Trwy integreiddio egwyddorion dysgu sgiliau echddygol i ddyluniad yr offer adsefydlu hyn, ein nod yw gwella'r broses adfer ar gyfer goroeswyr strôc mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn dal eu diddordeb. Bydd yr offer hyn nid yn unig yn hwyluso therapi hunangyfeiriedig ond hefyd yn mynd i'r afael â diffygion allweddol mewn arferion adsefydlu presennol."
Gan weithio'n agos gyda thair Canolfan Adsefydlu Strôc yng Ngogledd Cymru i nodi arferion ac anghenion clinigol; bydd y tîm yn datblygu ac yn profi prototeipiau ar y safle ac yn casglu adborth gan glinigwyr a chleifion.
“Mae gwella ar ôl strôc yn creu heriau sylweddol. Yn hyn o beth, roedd sefydlu tair uned adsefydlu strôc i gleifion mewnol gan y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru yn gam sylweddol ymlaen i gleifion strôc. Drwy gydweithio’n agos â’r unedau hyn, gallwn sicrhau bod anghenion cleifion yn parhau i fod wrth wraidd yr ymchwil hwn.” meddai Dr Giovanni d'Avossa, ymgynghorydd niwroleg sy'n ymwneud â'r project.
Bydd yr astudiaeth yn dilyn tri chyfnod allweddol. Yn gyntaf, yn y cam asesu anghenion, bydd therapyddion adsefydlu a goroeswyr strôc yn cael eu cyfweld i gloriannu eu hanghenion a’u disgwyliadau. Bydd y cam hwn hefyd yn gwerthuso pa adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a rhwystrau i’w defnyddio, gan ystyried ffactorau fel namau gwybyddol, cymhelliant, heriau o ran cadw diddordeb pobl, a gwahaniaethau unigol. Yn yr ail gam, ar ôl cloriannu’r asesiad anghenion, eir ati i ddylunio a gweithgynhyrchu prototeipiau, naill ai gan ddatblygu offer newydd neu addasu rhai sy'n bodoli eisoes i fod yn offer adsefydlu sy’n dal diddordeb y claf ac sydd o oedran priodol. Rhoddir sylw gofalus i ymarferoldeb, diogelwch, ac ysgogiad synhwyraidd. Yn olaf, caiff y prototeipiau eu profi a'u mireinio, gan ddefnyddio adborth gan ddefnyddwyr i’w gwella ar gyfer dyluniadau terfynol.
Disgwylir i’r astudiaeth hon ddatblygu’r broses o adsefydlu ar ôl strôc yn sylweddol drwy gefnogi ymarfer heb oruchwyliaeth, gan ganiatáu i gleifion fod â rhan fwy gweithredol yn eu hadferiad. Er mwyn annog cynifer â phosib i fanteisio ar yr offer, bydd yr holl adnoddau a ddatblygir yn rhai ffynhonnell agored, yn rhydd o gyfyngiadau eiddo deallusol, ac yn hawdd i unedau adsefydlu ledled y Deyrnas Unedig eu defnyddio