Yn dilyn cymeradwyaeth gan Gyngor y Brifysgol (dydd Llun, 25 Tachwedd), mae’n bleser gan yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, gyhoeddi bod yr Athro Andrew Edwards wedi cael ei benodi yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd). Bydd Andrew yn dechrau yn y swydd ar unwaith.
Mae Andrew wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i'r Brifysgol yn ystod ei yrfa. Dechreuodd fel academydd yn yr Ysgol Hanes cyn cymryd rolau arweinyddol megis bod yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Cymreig dros Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) ac yn Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Yn 2012, cafodd ei benodi’n Ddeon y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac ehangodd cylch gorchwyl y swydd honno i gynnwys Busnes yn 2017.
Yn 2020, penodwyd Andrew yn Ddirprwy Is-ganghellor gyda throsolwg dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn y swydd honno, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke: “Mae Andrew wedi bod yn ganolog i gynnydd academaidd a strategol Prifysgol Bangor ers nifer o flynyddoedd. Dechreuodd ar ei yrfa yn yr Ysgol Hanes ac yn raddol mae wedi ymgymryd â swyddi arweinyddol ac iddynt gwmpas a chyfrifoldeb cynyddol, gan ddangos ei ymroddiad i hyrwyddo cenhadaeth y Brifysgol. Rwy’n gwbl hyderus y bydd yn bwrw iddi yn ei rôl newydd gyda’r un angerdd a’r un weledigaeth ag erioed.”
Ychwanegodd Andrew, "Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Ddirprwy i’r Is-ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd). Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn ganolog i fy nhaith academaidd a phroffesiynol. Dwi’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i hyrwyddo ein blaenoriaethau academaidd, meithrin rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, a sicrhau’r profiad gorau posibl i’n myfyrwyr.”
Fel y dywedwyd eisoes, bu i ymadawiad y Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang) ysgogi adolygiad strategol o'r rôl. Cytunwyd i ailddiffinio’r portffolio, gan ymddiried y cyfrifoldebau hynny i’r Dirprwy presennol i’r Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull, sydd bellach wedi ymgymryd â swydd Dirprwy i’r Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang).
Yng ngoleuni’r penodiadau hyn, bydd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y Gymraeg, bydd yr Athro Morag McDonald, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros Ymgysylltu Dinesig a Phartneriaethau Strategol.
Trwy wneud y penodiadau mewnol a strategol hyn, mae'r Brifysgol yn parhau i gryfhau ei thîm arweinyddol, ac yn sicrhau ei bod mewn sefyllfa dda i lywio trwy dirwedd addysg fyd-eang sy’n gynyddol gystadleuol.