Bydd tîm amlddisgyblaethol Labordy Plant Bangor yn ymchwilio i feysydd hollbwysig megis datblygiad iaith, llythrennedd a gwybyddiaeth gymdeithasol, ac yn defnyddio cyfuniad o asesiadau ymddygiadol, niwroddelweddu, a modelu cyfrifiadurol.
Mae'r dull arloesol hwn yn pontio ymchwil gwyddonol ag ymarfer, gyda'r nod o wella dealltwriaeth ac arferion sy'n cefnogi twf a datblygiad plant. Bydd y labordy hefyd yn arloesi gyda strategaethau newydd i weithio gyda phobl ifanc sydd â gwahaniaethau niwroddatblygiadol, gan helpu i ddeall eu hanghenion yn well a datblygu ymyriadau effeithiol i’w cefnogi.
Gyda'i gilydd, mae'r ymchwilwyr yn Labordy Plant Bangor wedi sicrhau dros £5 miliwn mewn cyllid, gan alluogi datblygiadau sylweddol yn yr ymdrech i ddeall seiliau niwrowybyddol amrywiadau datblygiadol a gwella ymyriadau blynyddoedd cynnar. Disgwylir i broject newydd a ariennir gan Sefydliad Waterloo gael ei lansio ddechrau 2025. Bydd y fenter hon yn dod â thîm o arbenigwyr ynghyd o Brifysgol Bangor, Prifysgol Efrog, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r prif bartneriaid clinigol yn cynnwys y pediatregydd cymunedol Dr Hamilton Grantham a'r seicolegwyr clinigol Dr Kate Dickson a Dr Leah Jones.
Tynnodd Dr Samuel Jones, Cyfarwyddwr Labordy Plant Bangor a darlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, sylw at genhadaeth y labordy, “Mae Labordy Plant Bangor yn dod ag arbenigedd o’r radd flaenaf mewn datblygiad niwral, gwybyddol ac ymddygiadol at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau dybryd yn y byd go iawn ym maes addysg a lles plant.
“Mae gennym seilwaith eithriadol ym Mhrifysgol Bangor i gefnogi’r gwaith hwn, gan gynnwys offer pwrpasol i astudio gweithgaredd a gweithrediad yr ymennydd. Mae'r rhain yn cynnwys labordai olrhain llygaid, technoleg EEG i fesur gweithgaredd trydanol yn yr ymennydd, TMS ar gyfer symbyliad anfewnwthiol o ranbarthau penodol yr ymennydd, a sganiwr fMRI pwrpasol ac offer fNIRS i fonitro gweithgaredd yr ymennydd trwy olrhain newidiadau mewn lefelau ocsigeneiddio’r gwaed. Yn ogystal, rydym yn cynnig ystafelloedd asesu ymddygiad sy’n addas i blant ac ystafelloedd profi dynodedig yng Nghanolfan Gofal Plant ac Ymchwil Tir na n-Og, canolfan a sefydlwyd gan Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ym 1990.”
Ychwanegodd Dr Jones, “Bydd ein menter newydd, a ariennir gan Sefydliad Waterloo, yn cryfhau ein partneriaethau agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr trwy benodi academydd clinigol. Yn hollbwysig, bydd y project hwn yn cyflwyno datganiad awdurdodol gan ymarferwyr ledled y Deyrnas Unedig ar lunio asesiadau niwroddatblygiadol effeithiol i blant ag anghenion cymhleth.”
Meddai Dr Leah Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Bydd y project hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ymchwil o ansawdd uchel a wneir ym Mhrifysgol Bangor ac ymarfer clinigol ar lawr gwlad ac, yn bwysicach fyth, bydd yn allweddol wrth ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gyda phobl ifanc â gwahaniaethau niwroddatblygiadol, er mwyn deall eu hanghenion a datblygu ymyriadau priodol i’w cefnogi.”
Mae Labordy Plant Bangor yn gam sylweddol ymlaen i wella bywydau plant trwy ymchwil blaengar ac arbenigedd cydweithredol.
I ddysgu mwy am Labordy Plant Bangor, ewch i https://www.bangorchildlab.com/