Mae Hamza, a enillodd Strictly Come Dancing yn 2022, hefyd yn naturiaethwr adnabyddus ac yn ddyn camera bywyd gwyllt. Mae ei lyfr newydd, Hamza’s Wild World, yn archwiliad difyr, addysgiadol o fyd natur Mae’n llawn ffeithiau hwyliog, lluniau cyfareddol, a darluniau hynod. Mae’n gwahodd plant i esgyn drwy’r awyr, plymio o dan y dŵr, a chrwydro’r wlad, o dan arweiniad Hamza a’i frwdfrydedd heintus a’i gyfoeth o wybodaeth.
Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys straeon personol o yrfa Hamza fel cadwraethwr a dyn camera bywyd gwyllt. Mae’n addysgiadol ac yn ysbrydoledig. Cafodd Hamza’s Wild World ei gynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg, ac mae’n cynnwys fformatio sy'n hwylus os oes dyslecsia ar rywun, sy’n sicrhau y gall pob darllenydd, gan gynnwys y rhai ac arnynt dyslecsia, fel Hamza ei hun, ei fwynhau.
Cafodd Hamza ei eni yn Swdan, a symudodd i’r Deyrnas Unedig yn ifanc ac yn ddiweddarach dilynodd radd mewn swoleg gyda chadwraeth ac ymddygiad anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor. Pan gaiff ei gyfweld ar y cyfryngau, mae Hamza’n aml yn siarad yn wresog am ei gyfnod ym Mangor, yn enwedig ei frwydrau yn erbyn dyslecsia a sut y bu i Ganolfan Dyslecsia Miles y Brifysgol ei gefnogi trwy gydol ei astudiaethau.
Dywedodd Hamza, “Mi wyddwn yn syth mai Prifysgol Bangor oedd y lle imi. Gwyddwn am ei henw da a pha mor adnabyddus oedd ei chefnogaeth gyda dyslecsia, a oedd yn bwysig iawn imi. Byddaf bob amser yn trysori fy amser yno—gwersi fy narlithwyr, y sesiynau ymarferol, a’r teithiau maes anhygoel yr aethom arnynt. Allwn i ddim aros am bob modiwl newydd, byddwn i’n gwirioni ar yr holl bethau newydd y byddwn yn eu dysgu am fyd natur.
“Prifysgol Bangor a roddodd yr hwb mwyaf imi mewn bywyd. Derbyniodd Syr David Attenborough radd er anrhydedd o Fangor, ac fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i ddilyn gradd mewn swoleg yno. Flynyddoedd yn ddiweddarach, rwyf bellach wedi derbyn yr un radd er anrhydedd - mae'n teimlo fel ffawd."
Ers ei ddyddiau prifysgol, dilynodd yrfa drawiadol ym myd teledu bywyd gwyllt. Daeth yn enw cyfarwydd fel Ranger Hamza ar Let’s Go for a Walk CBeebies ac mae wedi ymddangos ar raglenni poblogaidd y BBC The One Show, Countryfile, and Animal Park. Cafodd ei raglenni dogfen ar Sianel 4, Scotland: Escape to the Wilderness, ganmoliaeth eang, a fis Medi 2023, cyflwynodd sioe ar BBC One ar yr oriau brig Hamza: Strictly Birds of Prey.
Dywedodd yr Athro Julia Jones o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, “Mae Hamza’s Wild World yn anrheg Nadolig perffaith i ddarpar gadwraethwr neu rywun sy’n hoff o fywyd gwyllt. Efallai y bydd rhai darllenwyr yn dilyn yn ei sgil ac yn astudio swoleg neu gadwraeth yma ym Mangor.”
“Mae bob amser yn bleser clywed am hynt a helynt ein graddedigion. Rwyf wrth fy modd yn gweld enw Hamza ar raglenni dogfen bywyd gwyllt neu'n ei wylio'n cyflwyno rhaglenni bywyd gwyllt anhygoel. Fe wnes i fwynhau Strictly Come Dancing yn fawr pan oedd o arni, heb golli’r un bennod! Mae ei frwdfrydedd dros natur yn heintus, ac mae wedi gwneud cymaint i ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ofalu am y byd o’u cwmpas.”
Hamza's Wild World gan Hamza Yassin, darluniau gan Louise Forshaw, a gyhoeddwyd gan Macmillan Children's Books ac mae ar gael mewn siopau llyfrau ledled y wlad ac ar-lein.
Derbyniodd Hamza radd Meistr er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Bangor am wasanaethau i adloniant poblogaidd a’i gyfraniad at ddysgu drwy’r holl gyfryngau yn 2022. Cewch wylio ei araith raddio yma.