Bydd Prifysgol Bangor yn anrhydeddu dau unigolyn eithriadol yn seremonïau graddio'r gaeaf, sef y cadwraethwr Nigel Brown a'r ymchwilydd i ecosystemau’r Arctig, yr Athro David N Thomas. Bydd y ddau’n derbyn graddau er anrhydedd ar 19 a 20 Rhagfyr i gydnabod eu cyfraniadau sylweddol i'w meysydd ac i gymuned y Brifysgol.
Gradd er Anrhydedd yw un o anrhydeddau mwyaf arwyddocaol Prifysgol Bangor. Mae'r Brifysgol yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i unigolion nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu maes academaidd a/neu gyfraniad penodol a chyson dros gyfnod o amser i fywyd y Brifysgol ac yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol. Nid yw'r unigolion sy'n cael eu hanrhydeddu yn seremonïau graddio'r gaeaf yn eithriad yn hyn o beth.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael dyfarnu Graddau er Anrhydedd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau mor nodedig yn eu dewis feysydd. Rydym yn croesawu’r unigolion hyn i’n seremonïau graddio yn y sicrwydd y byddant yn ysbrydoli ein graddedigion newydd.”
Bydd Mr Nigel Brown, cyn Guradur Gardd Fotaneg Treborth, yn derbyn Gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i’r rhanbarth ac i’r Brifysgol. Gwasanaethodd Nigel fel Curadur Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor o 1976 i 2015, gan ehangu rôl yr Ardd mewn addysgu ac ymchwil, yn ogystal â hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd â’r gwyddorau biolegol a garddwriaeth. Daeth Treborth yn ffenestr siop sy’n ysbrydoli, nid yn unig o ran planhigion, ond hefyd o ran dathlu a deall byd natur yn ei gyfanrwydd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu iddo am ei ymroddiad i addysgu botaneg ac ecoleg i fyfyrwyr ac am ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Er ei fod bellach wedi ymddeol, mae Nigel yn parhau i fod yn gyfathrebwr angerddol dros yr amgylchedd naturiol, gan hyrwyddo bioamrywiaeth Eryri ac Ynys Môn trwy ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys cynnal nifer o sgyrsiau a theithiau maes. Mae’n parhau i chwarae rhan allweddol wrth gydlynu gwaith maes botanegol ar Ynys Môn ac wrth ysgrifennu Blodeulyfr newydd i Ynys Môn.
Bydd Yr Athro David N Thomas, sy’n Athro Ymchwil i Ecosystemau’r Arctig ym Mhrifysgol Helsinki, yn derbyn Gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i Addysg. Chwaraeodd yr Athro David Thomas ran ganolog yn y Brifysgol fel aelod staff rhwng mis Gorffennaf 1996 a mis Tachwedd 2020, gan wasanaethu fel Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Eigion a Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil). Symudodd wedyn i’w rôl bresennol fel Athro Ymchwil i Ecosystemau’r Arctig ym Mhrifysgol Helsinki, gan gynnal cysylltiadau ymchwil fel Athro er Anrhydedd ym Mangor tra oedd yn cyd-oruchwylio project ar blastigion mewn systemau dyfrol. Yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor, bu’n arwain grwpiau ymchwil mewn biogeocemeg iâ môr, rhyngweithiadau rhwng y tir a’r cefnfor, a chynhyrchu biodanwydd o fio-adweithyddion algaidd. Mae’r Athro Thomas wedi cael cydnabyddiaeth nodedig am ei gyfraniadau i ymchwil i ecosystemau’r Antarctig a’r Arctig, gan gynnwys cael Rhewlif Thomas ym Mhenrhyn yr Antarctig wedi ei enwi ar ei ôl yn 2020. Yn 2022, dyfarnwyd Medal Begynol fawreddog Prydain iddo gan Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.