Gwyddonwyr yn rhagweld effeithiau’r hinsawdd ar briddoedd Ewrop
Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut mae achosion o dywydd eithafol yn effeithio ar ficrobau pridd bach, gan roi dirnadaeth newydd o’r risgiau a achosir gan newid hinsawdd.
Wrth i achosion o dywydd eithafol, fel tywydd poeth, sychder, llifogydd, a rhew ddod yn fwy cyffredin oherwydd gwresogi byd-eang, mae deall sut mae microbau pridd - sy'n hanfodol ar gyfer ecosystemau iach - yn ymateb yn allweddol.
Mae i'r microbau hyn ran allweddol mewn prosesau naturiol fel cylchu carbon, sy'n helpu i benderfynu faint o garbon sy'n cael ei storio yn y pridd a faint a ryddheir i'r atmosffer fel carbon deuocsid - un o’r prif bethau sy’n effeithio ar wresogi byd-eang.
Bu ymchwilwyr o Brifysgol Manceinion yn gweithio gyda rhwydwaith o wyddonwyr ar draws Ewrop, gan gynnwys Robert Griffiths, Athro mewn Microbioleg Amgylcheddol yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor.
Ef oedd cyd-ymchwilydd y project, ac arweiniodd y gwaith o ddadansoddi moleciwlau o ficrobau pridd gydag ymchwilwyr o UKCEH a Phrifysgol Manceinion.
Casglodd y gwyddonwyr samplau pridd o 30 o laswelltiroedd mewn 10 gwlad. Bu iddyn nhw wedyn arbrofi gan amlygu'r samplau i achosion o dywydd eithafol efelychiedig o dan amodau labordy rheoledig i ddarganfod sut fyddai'r microbau'n ymateb.
Canfu'r tîm fod cymunedau microbaidd mewn priddoedd o wahanol rannau o Ewrop yn ymateb mewn ffyrdd unigryw i achosion o dywydd eithafol. Er enghraifft, roedd tywydd poeth a sychder yn effeithio’n arbennig ar briddoedd o hinsawdd oerach a gwlypach, tra bo llifogydd yn effeithio fwy ar briddoedd o ardaloedd sych.
Fodd bynnag, canfu'r gwyddonwyr hefyd batrymau calonogol ac arwyddion o gysondeb. Yn benodol, microbau a all "ohirio" eu gweithgaredd a chysgu - gan yn y bôn aros am amodau gwell - mewn unrhyw dywydd.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn heddiw yn y cyfnodolyn Nature.
Meddai Dr Chris Knight, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Daear ac Amgylchedd ym Mhrifysgol Manceinion: “Mae microbau pridd yn hanfodol i’n hecosystemau. Mae eu gallu i addasu neu frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd pridd, twf planhigion, cynhyrchu bwyd a storio carbon.
“Trwy ddeall 'strategaeth oroesi' y microbau, gallwn ragweld yn well ac o bosibl liniaru effeithiau'r achosion hyn o dywydd eithafol yn y dyfodol, gan roi dirnadaeth hanfodol i ni o sut mae diogelu rhanbarthau bregus.
“Ond mae ein hymchwil yn amlygu pa mor gymhleth ac amrywiol y gall effeithiau newid hinsawdd fod. Mae’r ffaith fod i amodau lleol ran mor enfawr ynghylch sut yr effeithir ar briddoedd yn golygu nad oes yna un ffordd gyffredinol o ddiogelu ecosystemau pridd, gan awgrymu bod strategaethau penodol yn allweddol.”
Mae pob safle sampl yn cynrychioli amrywiaeth y rhanbarthau bioddaearyddol sy'n bodoli yn Ewrop: alpaidd (Awstria), isarctig (Sweden), Arctig (Gwlad yr Iâ), yr Iwerydd (Rhydychen a Chaerhirfryn, DU), boreal (Estonia), cyfandirol (yr Almaen), Môr y Canoldir (Sbaen a Gwlad Groeg) a hinsawdd y paith (Rwsia).
Mae’r ymchwil yn cynnig cam cyntaf allweddol wrth ragweld sut mae cymunedau microbaidd yn ymateb i eithafion hinsawdd, gan helpu i lywio ymdrechion cadwraeth a pholisïau hinsawdd ledled y byd.
Ychwanegodd Franciska de Vries, a gynhaliodd yr ymchwil pan oedd ym Mhrifysgol Manceinion, ond sydd bellach yn Athro Gwyddor Arwyneb y Ddaear ym Mhrifysgol Amsterdam: “Mae’r astudiaeth hon yn un o’r rhai mwyaf o’i bath. Drwy weithio mewn sawl gwlad ac ecosystem wahanol, rydym ni wedi gallu cynnig dirnadaeth allweddol a allai arwain ymchwil a strategaethau rheoli amgylcheddol yn y dyfodol gan sicrhau iechyd ein hecosystemau yn wyneb heriau hinsawdd cynyddol.”
Mae Robert Griffiths yn Athro Microbioleg Amgylcheddol yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Cafodd ei gyflogi gan UKCEH dros gyfnod y grant.
Mae bellach yn parhau â’i yrfa academaidd ym Mangor, ac mae ar fin gwneud ymchwil pellach yn yr un maes.