Y cyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, mae Y Môr a Ni yn cyfuno gwybodaeth a phrofiad 22 o sefydliadau gan gynnwys CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), Llywodraeth Cymru, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac academyddion o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, i gydweithio fel Clymblaid Llythrennedd Cefnfor Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddylanwad pobl ar y môr, ynghyd â dylanwad y môr arnom.
Po fwyaf y cysylltiad y mae pobl yn ei deimlo â'r môr, y mwyaf ymwybodol y daw pobl am effeithiau unigolion a chymdeithas ar gynefinoedd arfordirol. Gall hyn arwain at newidiadau ymddygiad sy’n cyfrannu at ddiogelu a gwarchod y mannau naturiol pwysig hyn - a’r holl fuddion y maent yn eu cynnig inni.
Ar ran tîm llythrennedd y môr yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor dywedodd Cymrawd Ymchwil anrhydeddus Dr Liz Morris-Webb,
"Hoffwn ddiolch i CASP am arwain y ffordd gyda Y Môr a Ni, ac i bawb a gymerodd ran. Mae wedi bod yn gyfle cyffrous i gydweithio ar y broses creu, gan ddatblygu gweledigaeth a llwybr i Gymru fydd â chysylltiadau gwell â'i dyfroedd cyfagos. Mae adfer perthynas cymdeithas â'r môr drwy feithrin cysylltiad ag o, ynghyd ag ysbrydoli pobl i'w ddeall, yn gam hanfodol tuag at gadw ein planed yn le gwell i fyw, ac rwy'n falch bod Cymru, Cynghrair Llythrennedd Cefnforoedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn benodol, yn arwain y ffordd ar hyn."
Mae mannau glas, fel y môr a'r arfordir, yn darparu ardaloedd a all wella eich lles corfforol a meddyliol, yn ogystal â darparu amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, y mae rhai ohonynt i'w cael yn y DU yn unig. Mae Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddiogelu'r rhain drwy addysgu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr morol ac ysbrydoli'r cyhoedd i fod yn stiwardiaid morol y dyfodol. Maent yn gweithio â Chymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) ar hyn o bryd. Nod prosiect Wystrys Gwyllt, Bae Colwyn yw helpu adfer poblogaethau wystrys brodorol yng Ngogledd Cymru gyda chefnogaeth 122 o wyddonwyr dinasyddion drwy annog cymunedau lleol - ysgolion, prifysgolion a thrigolion - i gymryd rhan mewn cadwraeth natur. Mae mwy na 9,760 o aelodau o'r cyhoedd a bron i 2,790 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect, drwy gynnal gweithdai rhyngweithiol, sesiynau addysgol, digwyddiadau cyhoeddus a rhaglenni addysg myfyrwyr, maent i gyd yn anelu at hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sut i ofalu am ein cefnfor.
Mae'r amgylcheddau morol hyn yn cefnogi diwydiannau lleol, gan gyfrannu at y sectorau bwyd ac ynni a darparu swyddi, yn enwedig mewn mannau twristiaeth boblogaidd. Trwy ymgysylltu'n gynnar â rhanddeiliaid a phrosiectau cymunedol cydweithredol, nod Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yw galluogi unigolion, cymunedau a busnesau i newid eu perthynas â'r môr.
Yn ogystal â chefnogi sector pysgodfeydd a dyframaeth Gwynedd, lansiodd Y Môr a Ni Gwynedd Bentref Bwyd Môr/Bwyd Môr cyntaf erioed yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon yr haf diwethaf, ymdrech gydweithredol sy'n dod ag ymchwil academaidd, celfyddydau coginio, ac ymgysylltu â'r gymuned ynghyd i ddathlu ein bywyd môr a'n treftadaeth arfordirol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies,
"Mae fframwaith newydd Cynghrair Llythrennedd Cefnfor Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn hanfodol er mwyn helpu mwy o bobl i ddeall pwysigrwydd y môr, ei ddylanwad ar ein bywydau bob dydd, a sut y gall ein gweithredoedd effeithio arno. Mae'r môr o fudd i'n hiechyd a'n lles, ynni, pysgota a dyframaeth, a chymaint mwy. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith cydweithredol hwn i ddiogelu ein hecosystemau morol ac arfordirol hanfodol."
Prifysgol Bangor yn hyrwyddo strategaeth llythrennedd cefnforol gyntaf y Deyrnas Unedig
Yr wythnos hon bydd Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru (CaSP Cymru) yn lansio fframwaith Llythrennedd Cefnfor i Gymru gyda'r nod o gynyddu perthynas pobl â'n harfordiroedd a'n moroedd.