Mae rhaglen LIBRTI yn rhan o fenter ehangach Fusion Futures, ac mae’n canolbwyntio ar arloesi datblygiadau tanwydd ymasiad, ac ysgogi capasiti cyffredinol y diwydiant trwy gydweithrediad rhyngwladol.
Yn ystod ei chyfnod o bedair blynedd, nod y rhaglen yw arddangos bridio tritiwm dan reolaeth, sy’n gam hollbwysig i orsafoedd ynni ymasiad yn y dyfodol.
Fel rhan o’r ymdrech hon, bydd Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig yn darparu £9 miliwn mewn cyllid ar gyfer 12 o arbrofion efelychu digidol a bridio tritiwm ar raddfa fach.
O'r 12 hyn, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis am ei harbenigedd i gyfrannu at y Rhaglen LIBRTI – menter sy'n torri tir newydd gyda'r nod o hyrwyddo technolegau tanwydd ymasiad.
Mae Rhaglen LIBRTI yn ceisio meithrin capasiti sydd gyda’r gorau yn y byd yn y Deyrnas Unedig i ddangos dichonoldeb technolegau tanwydd ymasiad sy’n berthnasol i orsafoedd ynni. Canolbwynt allweddol y fenter hon yw datblygu blancedi bridiol tritiwm ar raddfa beirianyddol – cydrannau hanfodol sy'n galluogi adweithyddion ymasiad i gynnal eu cyflenwad tanwydd trwy fridio tritiwm.
Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon drwy ddatblygu dulliau newydd i sicrhau gweithrediad diogel ac effeithlon blancedi bridiol i'w defnyddio o fewn y system adweithyddion ymasiad. Mae Prifysgol Birmingham yn cefnogi'r gwaith gyda mynediad at ddata o'u cyfleusterau arbrofol.
Esbonia Dr Cillian Cockrell, sy’n Ddarlithydd Mecanyddol ym Mhrifysgol Bangor, “Mae hon yn ymdrech sylfaenol i'r diwydiant ymasiad niwclear. Mae'n ymwneud â sefydlu'r isadeiledd i wneud yr ymchwil sydd ei angen i wireddu pŵer ymasiad.”
“Ein cyfraniad ni yw adeiladu’r isadeiledd meddalwedd ategol. Trwy gynnal arbrofion wedi'u targedu, rydym yn cynhyrchu data i'n cynorthwyo i ddatblygu offer meddalwedd i ddehongli data gweithredol ac arwain arbrofion yn y dyfodol. Wrth i'r arbrofion hyn ddod yn fwy soffistigedig, mae angen inni ddeall beth mae'r data’n ei ddweud wrthym. Mae'r feddalwedd yr ydym yn ei hadeiladu’n darparu fframwaith i wneud synnwyr o'r data, rhagweld canlyniadau, a phennu'r camau nesaf."
Mae'r gwaith yn cynnwys modelu gwaith mewnol cydrannau adweithyddion ymasiad allweddol, y flanced fridiol, i ddilysu damcaniaethau ffisegol ac egluro arsylwadau arbrofol mewn amodau arferol ac anarferol. Mae'r dull hwn yn tynnu ar hanes hir o efelychu mewn adweithyddion niwclear traddodiadol, lle gall mesuriadau uniongyrchol fod yn heriol oherwydd cyfyngiadau diogelwch. Fodd bynnag, o ran peirianneg ymasiad, mae bellach angen addasu modelu o'r fath.
Ychwanegodd Cillian “Dros amser, bydd yn esblygu i fodel mwy soffistigedig y gellir ei gymhwyso i adweithyddion gwirioneddol. Hedyn yw’r hyn yr ydym yn ei adeiladu nawr - rhan hanfodol o ddiwydiant ymasiad niwclear cynaliadwy. Erbyn i adweithyddion y dyfodol fod yn weithredol, bydd y gwaith hwn wedi gosod sylfaen i’r cynnyrch terfynol.”
Ychwanegodd yr Athro Simon Middleburgh, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear a chyd-ymchwilydd: “Mae’r project, sy’n cael ei arwain gan Cillian, yn enghreifftio’r arbenigedd o fewn y Sefydliad Dyfodol Niwclear, ac yn ychwanegu momentwm at y cydweithio rhagorol gyda’r Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig. Rydym yn edrych ymlaen at gymryd camau effeithiol tuag at drawsnewid y wyddoniaeth a’r ymchwil hwn, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn gynhyrchion a fydd, yn y pen draw, yn tanio dyfodol ynni glân yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”
Mae Dr Tessa Davey, Darllenydd Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig mewn Modelu Ymasiad yn nodi “Rhan gyffrous allweddol o’r fenter hon hefyd yw cipio’r sicrwydd y byddwn ei angen i weithredu systemau ymasiad yn y dyfodol o dan amodau amrywiol. Yn ogystal ag arwain a chyflymu datblygiad technolegau’r dyfodol, mae hyn hefyd yn hollbwysig wrth adeiladu ar ystyriaethau diogelwch a hyder trwy gydol y datblygiad gwyddonol.”
Mae potensial ynni ymasiad yn enfawr. Mae'n cynnig tanwydd sydd bron yn ddiderfyn, nid yw'n cynhyrchu unrhyw nwyon tŷ gwydr, ac mae'n cario llai o'r heriau gwastraff ymbelydrol hirdymor sy'n gysylltiedig ag ynni niwclear traddodiadol.
Prifysgol Bangor yn cael ei dewis i gyfrannu at Raglen LIBRTI Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig
Wrth i'r byd wynebu'r angen brys am ddatrysiadau ynni adnewyddadwy a glân, mae ymasiad yn dod i'r amlwg fel rhan hollbwysig o ynni byd-eang yn y dyfodol.
Mae rhaglen Arloesedd Tritiwm Bridio Lithiwm (LIBRTI) gwerth £200 miliwn Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cyfres o gamau sylweddol i hyrwyddo datblygiad ynni ymasiad.