Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn Ymweld â M-SParc i Ddathlu Arloesedd a Thwf y Dyfodol
Heddiw, cafodd M-SParc y fraint o groesawu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, a ymwelodd â’r parc gwyddoniaeth i ddysgu mwy am yr ecosystem bywiog o arloesi a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Ffocws yr ymweliad oedd dysgu mwy am un o’r eco-systemau arloesi mwyaf pwerus yng Nghymru a thrafod y cyfleoedd a gynigir gan y Borthladd Rydd.
Croesawodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, y Prif Weinidog a rhannodd gynlluniau uchelgeisiol y parc gwyddoniaeth i ehangu ei safle. Gyda’r statws porthladd rhydd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu ail adeilad, mae M-SParc yn paratoi ar gyfer blwyddyn drawsnewidiol. “Mae’r ymweliad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd arloesi a chydweithio i yrru economi Cymru yn ei blaen,” meddai Pryderi ap Rhisiart. “Rydym yn gyffrous am y dyfodol a’r rôl y bydd M-SParc yn ei chwarae wrth lunio economi ffyniannus, gynaliadwy.”
Mynegodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, ei lawenydd ar ymweliad y Prif Weinidog gan nodi,
“Rydym yn croesawu’r cyfle i arddangos M-SParc, Parc Gwyddoniaeth y Brifysgol, i’r Prif Weinidog gan amlygu llwyddiannau’r cwmnïau sydd wedi’u lleoli yma a gwaith arloesol ein Sefydliad Dyfodol Niwclear. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i rannu ein cynlluniau ar gyfer ail adeilad ar y Parc Gwyddoniaeth ac hefyd I amlinellu manteision ein rôl ym Mhorthladd Rhydd Môn. Mae’r Porthladd a’r Parc Gwyddoniaeth yn ganolog i’n cyfraniad i’r economi ranbarthol, sy’n flaenoriaeth allweddol i’r Brifysgol.”
Gan gydnabod y parc gwyddoniaeth fel canolbwynt arloesi, mae'r Brifysgol yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y mentrau arloesol sy'n gysylltiedig â'r porthladd rhydd, gan gryfhau ymhellach ei chysylltiad rhwng y byd academaidd a diwydiant.
Yn ystod ei ymweliad, bu’r Prif Weinidog yn cyfarfod â thri busnes arloesol yn M-SParc:
- Hydrowing, datblygwr tyrbinau llanw sy'n gweithio i harneisio ynni cynaliadwy o amgylcheddau morol.
- 42able.ai, cwmni sy'n arbenigo mewn datblygu platfformau deallusrwydd artiffisial pwrpasol i yrru cynnydd mewn technolegol.
- Pelly, llwyfan chwaraeon a gaeodd gylch ariannu llwyddiannus yn ddiweddar mewn cydweithrediad ag M-SParc a Banc Datblygu Cymru.
Mae’r busnesau hyn yn enghraifft o’r amrywiaeth a’r creadigrwydd sy’n ffynnu yn ecosystem M-SParc.
Bu’r Prif Weinidog hefyd yn cyfarfod â myfyrwyr o Ysgol Esgeifiog, a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM a menter fel rhan o raglen allgymorth M-SParc. Gyda thri athro llawn amser yn ymroddedig i gysylltu diwydiant â thalent y dyfodol, mae M-SParc wedi ymrwymo i feithrin llif o weithwyr proffesiynol medrus.
Daeth yr ymweliad i ben gyda chyfarfod yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear (SDN), lle bu'r Prif Weinidog yn ymgysylltu â'r Athro Simon Middleburgh a'i dîm. Bu’r SDN yn arddangos eu ymchwil, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau blaengar mewn technoleg niwclear.
Wrth siarad am ei ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae M-SParc yn ymgorffori ysbryd arloesol Cymru, gan hybu cynnydd mewn meysydd allweddol fel ynni adnewyddadwy, deallusrwydd artiffisial, ac ymchwil uwch. Mae ymgysylltu â thalent ifanc a’r cysylltiadau rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn wirioneddol ysbrydoledig.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Brifysgol, mae M-SParc yn barod i barhau i arwain ar feithrin arloesedd, cynaliadwyedd a thwf economaidd yng Nghymru. Mae’r ymweliad hwn yn amlygu’r rôl hanfodol y mae parciau gwyddoniaeth yn ei chwarae wrth lunio dyfodol llewyrchus i’r rhanbarth.