
Cynhaliwyd dwy sesiwn wirfoddoli—y cyntaf ar 11 Rhagfyr, lle gwelwyd 20 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, a’r ail ar 5 Chwefror, lle gwirfoddolodd 16 o fyfyrwyr. Roedd sesiwn mis Chwefror yn rhan o Wythnos Wirfoddoli Undeb Bangor, a oedd yn cynnwys digwyddiadau cymunedol megis digwyddiad glanhau traeth a chaffi atgyweirio.
Mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau’r gymuned leol i dacluso ymylon y llwybrau, clirio prysgwydd ac eithin, casglu sbwriel, a phlannu 15 o goed ffrwythau; afalau, gellyg ac eirin.
Dywedodd Josie Ball, sef Cydlynydd Gwirfoddoli a'r Gymuned: “Mae’n arbennig iawn cael bod yn rhan o’r project hwn a gweld myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth gynnal mannau gwyrdd yn ein cymuned leol. Rydym wedi bod wrth ein boddau’n gweithio gydag aelodau’r gymuned i drawsnewid Pen Y Bonc yn fan croesawgar sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda. Diolch o galon i bawb sy’n rhan o’r project, gan gynnwys Cyngor Gwynedd a Chyngor Dinas Bangor, am eu cyllid a'u cefnogaeth. Mae gwaith tîm yn gwneud projectau fel hyn hyd yn oed yn fwy pleserus a llwyddiannus!"

Mae Pen Y Bonc yn eiddo i Gyngor Dinas Bangor, sydd wedi cefnogi’r project yn llawn. Mae cyllid wedi ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd trwy eu rhaglen Partneriaeth Natur Leol. Y weledigaeth yw creu man croesawgar a hygyrch i’r gymuned leol, gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn, gan hefyd annog bywyd gwyllt lleol. Bwriedir i'r dyluniad fod yn gynaliadwy ac yn hawdd i’w gynnal, gan adlewyrchu'r adnoddau gymharol fach sydd ar gael.
Ychwanegodd yr ecolegydd lleol, John Ratcliffe: “Roedd Pen Y Bonc yn denu sbwriel, roedd wedi cael ei esgeuluso ac yn galw am ofal tyner a chariadus. Cytunodd cyfarfod cymunedol ar fesurau i wella pa mor ddeniadol ydyw i bobl a bywyd gwyllt. Mae hyn yn cynnwys perllan ar y llethrau isaf i ddarparu ffrwythau, tocio eithin yn ôl, torri gwair a hau i hybu dôl sy'n llawn blodau. Mae cefnogaeth gan gymuned y myfyrwyr wedi bod yn hwyl ac yn wirioneddol ysbrydoledig, ond dwi’n meddwl bod y cyflenwad o gacennau wedi helpu hefyd."
Mae’r uchelgais ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gosod meinciau fel y gall pobl eistedd a mwynhau’r man gwyrdd a’r golygfeydd ar draws y Fenai. Os hoffech ymweld â'r safle a phrofi ei harddwch naturiol, dim ond taith gerdded pum munud ydyw o Brif Adeilad y Celfyddydau’r Brifysgol, gyferbyn ag Eglwys Bentecostaidd Cynulliadau Duw.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â gwirfoddoli@undebbangor.com.
