Aeth yr Athro Christian Dunn i ymweld â Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi yn Wcráin i gwrdd ag aelodau o staff y brifysgol ym mis Ionawr eleni.
Yn ystod ei arhosiad wythnos o hyd, bu’r Athro Dunn, yn gweithio gyda’r Adran Ecoleg ac Addysg Fiolegol i gasglu samplau pridd a gymerwyd o safleoedd amaethyddol a gafodd eu taro’n uniongyrchol gan daflegrau a dronau.
Cafodd yr Athro Dunn, o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, hefyd gyfle i gyflwyno rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Radio 4 ar yr ymchwil yn Wcráin, a fydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

Wrth drafod y daith, dywedodd yr Athro Dunn: “Cefais groeso anhygoel gan bawb ym Mhrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi. Roeddent yn ymddangos yn falch iawn ein bod wedi dod i ymweld â nhw, er gwaethaf y rhyfel oedd yn mynd rhagddo.
“Mae'r brifysgol yn gwneud gwaith gwych - o ran ymchwil ac addysgu - er bod yr amodau'n amlwg yn eithaf heriol.
“Roedd clywed yr hyn y mae’r staff a’r myfyrwyr wedi bod drwyddo, ac yn dal i fynd drwyddo, wedi rhoi llawer iawn o barch i mi tuag atyn nhw a phobl Wcráin.
“Roedd aros yn Wcráin yn sicr yn brofiad diddorol; roeddwn yn dod i arfer â’r rhybuddion cyrch awyr yn gyflym iawn, ac mae gweld sut mae’r bobl yno’n parhau â bywyd normal cystal ag y gallant yn ail-galibro eich ffordd o feddwl.”
“Roedd casglu samplau o graterau taflegrau wedi’u hamgylchynu gan shrapnel, mewn ardal sy’n cael ei thargedu’n ddyddiol, ychydig yn wahanol i fy lleoliadau samplu mwdlyd arferol,” ychwanegodd yr Athro Dunn.
Mae Prifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi a Phrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn menter gefeillio rhwng y ddwy wlad, ac wedi llofnodi Memorandwm Cydweithredu yn 2022.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, sef Dirprwy i’r Is-ganghellor ac arweinydd cysylltiadau rhyngwladol Prifysgol Bangor: “Rydym yn hynod falch o gael ein gefeillio â Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi, o ystyried yr hyn y maen nhw, a Wcráin, wedi bod drwyddo.
“Rydym yn falch bod yr Athro Dunn wedi gallu mynd i ymweld â nhw hefyd - fel y gallwch ddychmygu, roedd cryn dipyn o faterion iechyd a diogelwch i’w hystyried, ond roedd hi’n werth dangos iddynt ba mor werthfawr yw’r berthynas i ni.”
“Bydd cynrychiolwyr o Brifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi yn dod i Fangor yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, felly bydd yn wych cael y cyfle i roi’r un croeso iddynt,” meddai’r Athro Turnbull.