Er bod pysgod cartilaginaidd megis siarcod a morgathod yn hanfodol i ddeall esblygiad fertebratau, mae astudio eu geneteg wedi bod yn anodd oherwydd eu bod yn fawr, yn tyfu'n araf, ac yn cymryd amser hir i atgynhyrchu, o gymharu â modelau labordy cyffredin megis llygod.
Fodd bynnag, mae datblygiadau technolegol diweddar wedi'i gwneud hi'n bosibl cynhyrchu data genomig o ansawdd uchel, hyd yn oed ar gyfer y rhywogaethau 'di-fodel' hyn, gan ein galluogi i archwilio meysydd newydd o eneteg, bioleg ddatblygiadol, ffisioleg, niwrowyddoniaeth, a bioleg esblygiadol. A chan fod Bangor wedi ei lleoli ar lan y Fenai, gyda mynediad hawdd i’r lan, mae gan staff yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol fynediad parod at fath o siarc o'r enw'r morgi lleiaf (Scyliorhinus canicula).

Diolch i’w faint cymharol fach, ei hygyrchedd, a’i arwyddocâd esblygiadol, mae'r morgi lleiaf yn fodel gwych i astudio sut esblygodd gwahanol fathau o gelloedd ac organau mewn fertebratau. Gan fod gan siarcod organau mawr, sy'n aml yn debyg o ran maint i rai bodau dynol, gall y canfyddiadau hyn fod yn fwy perthnasol i'n dealltwriaeth o ddatblygiad dynol a chlefyd, o gymharu â llawer o rywogaethau eraill. Mae gan siarcod hefyd nifer o nodweddion unigryw diddorol, megis y gallu i gael dannedd newydd drwy gydol eu hoes, ffordd anarferol o ymdopi â straen ffordd o fyw dyfrol trwy lefelau uchel o wrea yn eu meinweoedd, a chyfraddau mwtanu araf.
Mae technegau newydd, megis dulliau dilyniannu un gell, yn trawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae celloedd yn datblygu ac yn gweithredu mewn bodau dynol, llygod, a rhywogaethau model eraill, ond tan yn ddiweddar, mae wedi bod yn amhosibl eu cymhwyso i siarcod oherwydd diffyg adnoddau genomig o ansawdd uchel. Roedd Dr John Mulley a Dr Owen Osborne o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn rhan o ymdrech ryngwladol i ddilyniannu, cydosod a dadansoddi genom y siarc, a gwblhawyd fel rhan o'r 'Project Coeden Bywyd Darwin' – ymdrech i ddilyniannu genom cyflawn pob rhywogaeth yn y Deyrnas Unedig. Dewiswyd y siarc fel un o'r 25 rhywogaeth gychwynnol oedd yn cynrychioli ardaloedd allweddol o fioamrywiaeth ym Mhrydain i gychwyn y project yn elfen '25 Genom am 25 Mlynedd' dathliadau 25 mlwyddiant ehangach Sefydliad Wellcome Sanger.

Dywedodd Dr John Mulley, Uwch Ddarlithydd mewn Swoleg: “Mae’r morgi lleiaf yn un o’r rhywogaethau model gorau i astudio siarcod, ac mae’r dilyniant genom newydd hwn eisoes wedi rhoi cipolwg ar enomau siarcod, esblygiad strwythurau synhwyraidd fertebratau, a geneteg poblogaeth y rhywogaeth trwy gymharu dilyniannau DNA o ogledd Cymru, y Môr Udd, a Môr y Canoldir. Rydym bellach yn edrych ymlaen at ei ddefnyddio wrth astudio amrywiaeth o agweddau diddorol ar fioleg siarcod sy'n berthnasol i iechyd dynol, megis datblygiad a gweithrediad y pancreas; ymateb i niwed cardiaidd; a swyddogaeth y system nerfol ac anaf i fadruddyn y cefn.”