Mae Friction Technology o Gaernarfon - sydd bellach yn rhan o n Industries Group Ltd (n Industries) ers mis Chwefror - yn profi samplau breciau a deunyddiau ar gyfer cychwynnydd offer glanio hofrennydd, ar ôl cael Taleb Sgiliau ac Arloesi gan y brifysgol.
Dan arweiniad Steve Magee, y Cyfarwyddwr Technegol, bu'r busnes o 14, a lansiwyd yn 2003, yn gweithio ochr yn ochr ag Athanasios Dimitriou, Gwyddonydd Deunyddiau yn y Ganolfan Biogyfansoddion, i brofi a dadansoddi cydrannau a'r broses 'ffrithiant', gyda'r bwriad o ddechrau gweithgynhyrchu.
Roedd y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesi yn cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint gydweithio trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Steve bod cefnogaeth Athanasios a’r tîm wedi bod yn “fuddiol tu hwnt” ac mae’n gobeithio y bydd y bartneriaeth yn parhau yn y dyfodol.
“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai hynod o brysur i’r cwmni, yn arbennig gan ein bod wedi dod yn rhan o’r grŵp n Industries, newid a fydd yn caniatáu i ni dyfu, buddsoddi mewn offer newydd, cyflogi staff – gan gynnwys prentis – ac edrych ar ddiwydiannau newydd, yn enwedig awyrofod,” meddai Steve.
“Tra bod hyn wedi bod yn flaenllaw o ran datblygiadau, rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, ac mae’r cynllun wedi caniatáu i ni edrych yn agosach ar y dechnoleg ffrithiant a ddefnyddir mewn systemau fel cychwynnydd offer glanio hofrennydd, datrys unrhyw broblemau technegol a chynnal gwahanol brofion.
“Rydym wedi cael mynediad at yr adnoddau anhygoel yn y Ganolfan Biogyfansoddion ac wedi gallu manteisio ar brofiad a gwybodaeth Athanasios, sydd wedi bod yn ddefnyddiol dros ben.
“Yn ei dro mae hyn wedi cryfhau ein perthynas â’r cwsmer, a oedd wedi ei blesio’n fawr gan ein hymateb a’r adroddiad a ddarparwyd gan y brifysgol.”
Ychwanegodd: “Mae yna fwy o brojectau fel hyn ar y gweill, felly byddai’n wych gallu parhau â’r berthynas, o ran cael cefnogaeth academaidd gan y brifysgol a hefyd i ninnau ddarparu cyfleoedd i raddedigion a helpu hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus yn ein sector.”
Ategodd Athanasios y geiriau hyn gan ddweud bod y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesi wedi helpu i feithrin cysylltiadau newydd ag amrywiaeth eang o sefydliadau yng ngogledd orllewin Cymru.
“Mae gweithio gyda Friction Technology wedi bod yn ddiddorol iawn, roedd yn her newydd ac roedd yn wych bod yn rhan o broject mor bwysig i’r cwmni,” meddai.
“Yn ogystal â’r cysylltiadau â’r brifysgol, rydym wedi gallu eu cyfeirio at grwpiau a sefydliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn ddefnyddiol iddynt wrth symud ymlaen ac yn helpu iddynt barhau i ddatrys problemau, masnacheiddio syniadau a thyfu fel busnes.
“Y cam nesaf fyddai Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhyngom a fyddai o fudd i’r ddwy ochr er mwyn datblygu cynnyrch ac ymchwil yn y dyfodol.”
Meddai Nicola Sturrs - Rheolwr Datblygu Busnes Prifysgol Bangor: “Roedd yn bleser cyflwyno Steve Magee i gydweithwyr yn y Ganolfan Biogyfansoddion ac mae’n wych gwybod y bydd ein perthynas â Friction Technology yn tyfu o ganlyniad i’r Daleb Sgiliau ac Arloesi.”
Wrth feddwl am y bartneriaeth ddiweddar gydag n Industries – sy’n adeiladu grŵp o fusnesau diwydiannol bach o ansawdd uchel yn y Deyrnas Unedig trwy eu prynu – dywedodd Jack Boyle, Cyfarwyddwr Gwerthiant Friction Technology: “Mae hwn yn gyfle anhygoel i ni adeiladu ar ein cryfderau a dilyn llwybrau newydd at dwf.”
Meddai Jonathan Bates-Kawachi, Prif Swyddog Gweithredol n Industries: “Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau diwydiannol o ansawdd uchel sydd â photensial mawr i dyfu, ac mae Friction Technology yn gweddu’n berffaith. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i sbarduno arloesi ac ehangu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”
Cefnogir y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi gan Gyngor Gwynedd. Mae’r project wedi cael £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ymestyn tan 31 Mawrth.
Roedd tri math o daleb ar gael, a gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys ymchwil a datblygu, ymgynghoriaeth, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau'r brifysgol, defnyddio offer arbenigol a mynediad at wybodaeth: Canolig: Hyd at £5,000 am bump i wyth diwrnod o gefnogaeth; Mawr: Hyd at £10,000 am 10 i 15 diwrnod o gefnogaeth, a’r daleb Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 ar gyfer interniaeth i fyfyriwr graddedig am 2 wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk.
Ewch i Friction Technology – Manufacturers Of Frictions Products am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan Friction Technology.