Mae canfyddiadau Prifysgol Bangor a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn rhan o adroddiad newydd sy’n dwyn y teitl: Trauma and Adverse Childhood Experiences (TrACE)-informed training for English for Speakers of Other Languages (ESOL) practitioners in Wales: understanding current provision and gaps.
Mae rhaglenni Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn helpu oedolion yn y Deyrnas Unedig, nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, i ddatblygu eu sgiliau Saesneg.
Daw’r dysgwyr o gefndiroedd amrywiol, ac maent yn cynnwys pobl sydd wedi cael eu gorfodi i fudo a mewnfudwyr o wledydd lle na chaiff Saesneg ei siarad. Mae’n bosib bod y dysgwyr wedi profi trawma cymhleth neu drawma dros gyfnod hir.
Dywed ymchwilwyr ei bod yn hanfodol bod athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn deall effaith trawma a sut i ymateb yn effeithiol i hynny, er mwyn darparu’r gefnogaeth orau posibl i’w dysgwyr.
Trwy gyfweld ag athrawon ac ymarferwyr ledled Cymru, canfu’r ymchwil nad yw athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, fel y mae pethau ar hyn o bryd, wedi derbyn fawr ddim hyfforddiant ar drawma, er gwaethaf yr effaith sylweddol a gaiff hynny yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r ymchwil yn nodi beth yw anghenion penodol athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill o ran hyfforddiant sydd wedi’i lywio gan drawma ac yn cynnig argymhellion i wella’r ddarpariaeth hyfforddiant yng Nghymru.
Yn yr argymhellion nodir y dylai’r hyfforddiant gael ei deilwra i’r lleoliad, gan ystyried y cymhlethdodau o ran sut y gall trawma godi ei ben yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r adroddiad yn dadlau y dylai hyfforddiant sydd wedi’i lywio gan drawma ar gyfer ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill fod yn flaenoriaeth, ac mae’r canfyddiadau’n rhoi’r mewnwelediad sydd ei angen er mwyn gwella hyfforddiant yng Nghymru a gwella cefnogaeth i ddysgwyr.
Dywedodd Natasha Judd o Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Bangor: “Nododd y cyfranogwyr fod trawma’r dysgwyr nid yn unig yn effeithio ar y dysgwyr eu hunain ond hefyd yn gallu effeithio ar yr amgylchedd addysgu ac ar les athrawon. Rydym yn argymell y dylai hyfforddiant sydd wedi ei lywio gan drawma ganolbwyntio ar gefnogi dysgwyr ac addysgwyr.”
Dywedodd Dr Kat Ford o Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Bangor: “Nododd pob cyfranogwr fod arnynt angen a bod ganddynt awydd cael hyfforddiant mwy penodol. Mae ein canfyddiadau’n darparu sylfaen gref, ond dylai ymchwil yn y dyfodol hefyd geisio ymgorffori safbwyntiau dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Bydd profiad y dysgwr yn rhan annatod o ddatblygu unrhyw hyfforddiant.”
Dywedodd Dr Jo Hopkins, Cyfarwyddwr Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru: “Yn yr Hyb, rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch ledled Cymru i roi ar waith y Pecyn Cymorth i Sefydliadau sydd wedi eu lywio gan Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Rydym yn defnyddio canfyddiadau’r astudiaeth hon i eiriol dros gefnogaeth bellach i ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill ledled Cymru ac yn cydnabod y cyfle sydd gennym, trwy waith ein hathrawon anhygoel, i gynyddu dealltwriaeth o drawma a sut y gall effeithio ar fywydau pawb yn ein cymunedau. Mae darparu adnoddau a hyfforddiant i roi’r sgiliau iddynt gefnogi dysgwyr sydd wedi profi trawma neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hanfodol.”
Gallwch weld y Pecyn Cymorth i Sefydliadau sydd wedi ei lywio gan Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yma (bydd y ddolen yn agor mewn tab newydd).