Cynhelir y digwyddiad ar nos Fawrth, 11 Mawrth am 7:00pm. Bydd y tocynnau sydd yn RHAD AC AM DDIM ar gael trwy wefan a llinell docynnau Pontio o ddydd Gwener, 7 Mawrth am 12:00pm. Mae'r digwyddiad yn addas i bobl o bob oed.
Gyda’i ddawn a’i angerdd nodweddiadol, bydd Steve Backshall, sy’n enillydd gwobr BAFTA, yn ddeiliad gradd er anrhydedd ac yn uwch ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, yn treiddio i fyd cyfareddol cyfathrebu morfilod. Bydd yr awdur llwyddiannus, sy’n adnabyddus am ei ddawn o adrodd straeon cyfareddol ac am ei wybodaeth drylwyr am fywyd y môr yn tywys y gynulleidfa trwy ddyfnderoedd y cefnfor, ac yn datgelu cyfrinachau am ganeuon, cliciadau a galwadau morfilod.
Os oes gennych ddiddordeb yn y môr, os ydych yn fyfyriwr bioleg, neu’n chwilfrydig am ryfeddodau byd natur, bydd y ddarlith hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr a phersbectif unigryw i chi ar un o drigolion mwyaf enigmatig a diddorol y cefnfor.
We are thrilled to welcome Steve back to the University for this special event. His passion for wildlife and adventure is truly inspiring, and we look forward to hearing his thoughts and insights on his latest projects and expeditions. We’re grateful for the impact Steve has in motivating and inspiring our students through his work, and are thrilled to host him once again at Pontio.
Tickets are available from the Pontio website: www.pontio.co.uk or by phoning 01248 38 28 28 from 12:00pm Friday, 7 March.