Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd fel rhan o'r Project BlueAdapt, yn datgelu sut mae golau haul a math o ddŵr (Afon, Aber neu Fôr) yn effeithio ar ba mor hir y gall firysau pathogenaidd mewn carthion dynol oroesi mewn dŵr, gan ddarparu mewnwelediadau hanfodol i reoli risgiau amgylcheddol a risgiau iechyd y cyhoedd yn ein hafonydd, llynnoedd ac ardaloedd arfordirol. Mae'r astudiaeth yn adeiladu ar ganfyddiadau blaenorol am ymddygiad firysau mewn dŵr môr ar wahanol dymereddau, gan archwilio sut mae amodau amgylcheddol amrywiol yn effeithio ar ddiraddiad firysau dŵr gwastraff cyffredin, gan gynnwys Ffliw a Norofeirws.
Mae'r tîm ymchwil yn amlygu bod golau haul – yn enwedig ymbelydredd uwch-fioled – yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflymu pydredd firol, gan leihau crynodiadau firws yn sylweddol o fewn ychydig oriau mewn amodau heulog. “Heb olau haul, gall dyfalbarhad firws ymestyn o ddyddiau i wythnosau, gan greu risg barhaus mewn dyfroedd cysgodol neu ddyfnach,” esboniodd Dr Jessica Kevill o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor. “Ar ôl ychwanegu golau haul efelychiedig at y gymysgedd, gwelsom ostyngiadau sylweddol mewn presenoldeb firol o fewn 24 i 72 awr, yn dibynnu ar y firws. Mae hyn yn awgrymu y gall ymbelydredd uwch-fioled fod yn un o’r anactifyddion firol naturiol mwyaf effeithiol, sydd â goblygiadau pwysig i ddiogelwch dŵr arfordirol, yn enwedig ar ôl arllwysiadau carthion.”
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddulliau genetig datblygedig i wirio presenoldeb deunydd genetig firol yn ogystal â chyfanrwydd y cregyn amddiffynnol sy'n cadw firysau’n heintus. Mae'r mesuriadau hyn yn rhoi dealltwriaeth gliriach o botensial y firysau i heintio bodau dynol ar ôl cael eu rhyddhau i systemau dŵr naturiol.
Mewn astudiaeth flaenorol gyda Phrifysgol Caerwysg, dangosodd ymchwil fod firysau'n goroesi'n hirach mewn dŵr môr ar dymereddau is, sy'n dangos, er y gallai tonnau gwres leihau risgiau firol ychydig, nid ydynt yn dileu’r risg yn gyfan gwbl.
Mae'r ymchwil diweddaraf hwn, fodd bynnag, yn amlygu bod ffactorau amgylcheddol eraill, megis halwynedd a golau haul, hefyd yn cael dylanwad mawr ar oroesiad firol. Heb olau haul, gallai firysau oroesi o 14 awr i dros 25 diwrnod, yn dibynnu ar y math o ddŵr a'r firws. Yng ngolau haul, gostyngodd amseroedd goroesi’n ddramatig i ddim ond 2.5 awr i 2 ddiwrnod.
“Mae’r canfyddiad hwn wir yn pwysleisio’r angen i asesu heintiad firol mewn asesiadau risg,” ychwanegodd Jessica. “Gall dibynnu’n llwyr ar ganfod genomau firol arwain at oramcangyfrif y risg iechyd gwirioneddol, gan nad yw’n ystyried a yw’r gronynnau firol hyn yn dal yn hyfyw ac yn gallu achosi haint dynol. Mae ein data’n awgrymu bod profion cyfanrwydd firol yn hollbwysig wrth asesu risg yn gywir, yn enwedig mewn amgylcheddau deinamig megis morydau a dyfroedd arfordirol.”
Mae goblygiadau’r ymchwil hwn yn sylweddol: wrth inni barhau i brofi tywydd eithafol cynyddol oherwydd y newid hinsawdd, a chynnydd mewn arllwysiadau dŵr gwastraff heb ei drin, rhaid inni addasu ein ffordd o reoli ansawdd dŵr. Gallai ymbelydredd uwch-fioled chwarae rhan hanfodol wrth reoli risgiau firol yn naturiol mewn dyfroedd bas dan olau haul, tra gallai profion cyfanrwydd firol gynnig mesuriad mwy manwl gywir o risg firol ar draws amgylcheddau dyfrol amrywiol.
O ran asiantaethau iechyd ac amgylcheddol, mae'r canfyddiadau hyn yn amlygu pwysigrwydd monitro cywirdeb firol ochr yn ochr â chrynodiad mewn dyfroedd cyhoeddus. “Yn wyneb tymereddau’n codi a thywydd eithafol anrhagweladwy, mae angen inni nawr, yn fwy nag erioed, fonitro dŵr mewn ffordd ddatblygedig a chywir,” meddai’r Athro Will Gaze o Brifysgol Caerwysg, a gydweithiodd â Jessica ar yr astudiaeth gyntaf. “Mae’r ymchwil hwn yn ein cyfeirio at fesurau mwy effeithiol o amddiffyn iechyd y cyhoedd.”