Rhyddhawyd y penodau cyntaf yn y gyfres ar ddydd Llun, 24 Mawrth, a bydd penodau nesaf y gyfres yn cael eu rhyddhau yn gyson wedi hynny. Mae’r podlediad yn mynd i’r afael â thestunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ac yn gwneud hynny mewn modd hwyliog a difyr. Mae’r project mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn y ddwy bennod gyntaf, sydd eisoes wedi eu rhyddhau, bydd Jerry a Richard yn trafod dwy glasur, y nofel Un Nos Ola Leuad gan yr awdur Caradog Prichard a’r nofel Martha, Jac a Sianco gan yr awdur Caryl Lewis, gallwch wrando ar y penodau hyn yma.

“Mae’r gyfres hon yn mynd i’r afael ar destunau sydd ar y maes llafur Cymraeg lefel A. Felly, mae’n gyfle i wrando, i fwynhau i glywed ambell beth sy’n wahanol a gobeithio eich ysbrydoli wrth i chi adolygu a mynd i’r afael ar y gwaith Lefel A,” meddai Jerry.
Mae dwy gyfres wedi’u cwblhau a 62 o benodau wedi’u rhyddhau dros ddwy flynedd, yn denu miloedd o ddilynwyr a derbyn gwobr arian yng ngwobrau British Podcast Award am y podlediad Cymraeg gorau yn 2023. Cafwyd sgyrsiau diddorol ac ysgafn rhwng y ddau am bynciau yn amrywio o’r llenyddiaeth Gymraeg fwyaf hynafol i Bedair Cainc y Mabinogi i glasur Ellis Wynne, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Fel y dywed Richard am hanfod podlediad Yr Hen Iaith:
“Mae’r Americanwr o Cincinnati, Ohio, Jerry Hunter, yn ceisio addysgu rhywfaint arna fi, Cymro o ganol Ynys Môn, ynglyn â chyfoeth llenyddiaeth ei iaith ei hun.”
Cyfarfu Jerry a Richard ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1986, a hynny wedi i Jerry ddod i Gymru i ddilyn MPhil yn y Gymraeg. Roedd Richard wrthi’n cwblhau’i radd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac mae’r ddau wedi bod yn gyfeillion agos ers hynny. Gan fod Jerry wedi bod yn ceisio darbwyllo’i gyfaill i ddysgu mwy am lenyddiaeth Gymraeg ers blynyddoedd lawer, cytunodd Richard o’r diwedd ac awgrymu gwneud hynny ar ffurf podliad – a dyna sut y dechreuwyd recordio Yr Hen Iaith.
Mae’r ddau bellach yn wynebau cyfarwydd yng Nghymru, ac yn feistri ar eu crefft. Mae Jerry Hunter yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2003. Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoes. Mae’n awdur cynhyrchiol sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C.
Mae Richard Wyn Jones yn sylwebydd ar wleidyddiaeth Cymru ac yn llais cyfarwydd iawn ar y cyfryngau. Mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig yn y DG a chenedlaetholdeb. Yn ogystal, caiff ei ystyried fel un o sylfaenwyr Astudiaethau Diogelwch Feirniadol.
Mae’r podledad ar gael yn gyntaf ar AM, ac mae hefyd ar gael ar YouTube ac apiau podlediad eraill. Mae nifer o’r penodau wedi’u ffilmio yn y Llyfrgell Genedlaethol, a chewch weld rhai o brif drysorau llenyddol Cymru wrth i ni egluro’u perthnasedd i’r cwrs lefel A.