Llwyddodd Rachel i dorri cwys newydd fel chwaraewraig rygbi'r undeb gan gynrychioli Cymru am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Canada yn 2007. Chwaraeodd mewn tair pencampwriaeth cwpan y byd a chafodd ei gwneud yn gapten ar y tîm cenedlaethol yn 2012. Bu hefyd yn gapten ar dîm merched y Barbariaid.
Ganed Rachel ym Mangor a chafodd ei magu yn Llandudno. Roedd yn gyfarwydd iawn â rygbi wrth dyfu i fyny gan fod ei thad yn hyfforddwr rygbi ac roedd ganddi frawd hŷn a oedd yn chwarae i dîm lleol. Bu’n chwarae rygbi ers iddi fod yn bump oed ac, er iddi droi ei llaw at nifer o gampau eraill wrth dyfu i fyny, gan gynnwys hoci, pêl-rwyd ac athletau, roedd hi bob amser yn dychwelyd at rygbi.
Ymunodd Rachel â Chlwb Rygbi Bae Colwyn pan oedd yn wyth oed, a dychwelodd yno fel hyfforddwraig gyntaf unrhyw dîm yng nghynghrair rygbi genedlaethol Cymru yn 2018. Torrodd Rachel dir newydd yn 2020 pan benodwyd hi yn Hyfforddwraig Sgiliau Cenedlaethol, a hi felly yw’r hyfforddwraig genedlaethol broffesiynol gyntaf yn hanes rygbi merched.
Mae Rachel yn ysbrydoliaeth ac yn llysgennad dros Gymru a thros rygbi merched, a hi yw un o’r unig chwaraewyr i fod wedi bod yn gapten ar dimau rhyngwladol 7 bob ochr a 15 bob ochr Cymru ac i chwarae dros bob rhanbarth.
Rachel bellach yw hyfforddwraig perfformiad Clwb Rygbi Sale Sharks ac mae wedi cyd-sefydlu Academi Rygbi, Rygbi 7/11, sy'n darparu profiadau hyfforddi o ansawdd sy'n canolbwyntio ar wella'r llwybr presennol i athletwyr benywaidd gyrraedd y lefel elît.
Mae Rachel bob amser wedi bod yr hyrwyddo rygbi merched ar lawr gwlad gan gyflwyno sesiynau hyfforddi i ysgolion a chlybiau yn ogystal â hyfforddi timau bechgyn rhanbarthol Gogledd Cymru a hyfforddi tafliadau gyda Rygbi Gogledd Cymru.
Wrth gyflwyno Rachel am yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Nichola Callow,
"Fel chwaraewraig, capten, hyfforddwraig ac aelod o’r Undeb Rygbi Merched, mae Rachel wedi hyrwyddo Cymru a rygbi merched drwy gydol ei gyrfa ac mae ei llwyddiannau ym myd y campau yn eithriadol."
Roedd gan Rachel hyn i'w ddweud am yr achlysur,
“Mae wedi bod yn fraint cael bod ym i dderbyn gradd er anrhydedd, yn fwy felly i gael profiad a bod yn rhan o'r dathliad gyda phawb arall yn derbyn eu graddau heddiw. Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn, ac mae cael bod yn rhan o’r ddathlu enfawr yn golygu llawer iawn i mi a fy nheulu.”
Roedd Rachel yn ymuno â thair blynedd o fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol a Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a lwyddodd o’r diwedd i raddio’n swyddogol o’r Brifysgol yn ystod tair wythnos digynsail o seremonïau graddio.