Mary Sutherland (1893-1955) oedd y ferch gyntaf yn y byd i raddio mewn Coedwigaeth ym 1916. Aeth yn ei blaen i gael gyrfa ddisglair mewn coedwigaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn Seland Newydd, lle'r oedd yn un o'r aedolau sefydlu'r Sefydliad Coedwigaeth Seland Newydd ym 1927. Gellir gweld cochwydden er cof am Mary yng Nghoedwig Whakarewarewa.
Paentiwyd portread Mary gan yr artist cyfoes o Geredigion, Meinir Mathias.
Dywedodd Meinir, "Rwy'n ei theimlo'n anrhydedd mai dyma'r portread cyntaf erioed o fenyw gan artist benywaidd i gael ei gomisiynu i hongian yn Siambr y Cyngor ochr yn ochr â gwaith artistiaid megis Kyffin a Whistler. Roeddwn hefyd yn falch iawn o gael golwg fanwl ar y murlun gwych ac ysbrydoledig gan Edward Povey."
Dadorchuddiodd Dr Becky Heaton y portread yn ystod y dydd pan dderbyniodd ei gradd er anrhydedd. Meddai Becky, "Hyd yn oed 70 mlynedd ar ôl i Mary Sutherland raddio, dydy hi ddim bob amser yn hawdd bod yn ferch yn y maes coedwigaeth - ac mi wn i’n iawn am hynny! Dwi'n gobeithio fod pethau rywfaint yn haws erbyn hyn ond fedra i ddim ond dychmygu pa mor anodd fyddai hi wedi bod i Mary, doedd ganddi hi neb i fod yn fodel rôl iddi. Dwi eisiau talu teyrnged iddi hi ac i ddwy goedwigwraig arall, sef Dr Pat Denne a Dr Christine Cahalan o Fangor a oedd yn fodelau rôl ac yn ysbrydoliaeth i fi Dwi’n gobeithio fod be lwyddodd Mary i’w wneud yn parhau i ysbrydoli merched sy’n goedwigwyr heddiw."
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor, “Rydym yn falch o dalu teyrnged i Mary Sutherland a Syr Robert Edwards, dau sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol iawn yn eu meysydd a chael effaith barhaol ar y byd. Bydd y lluniau hyn, a baentiwyd gan artistiaid dawnus, yn atgof gweledol o’u gwaith arloesol.”
Mae portreadau’r ddau gyn-fyfyriwr yn hongian yn Siambr y Cyngor.
Straeon perthnasol: