Crynodeb
Mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dangos effeithiau cymdeithasol negyddol cadwraeth ar rai o'r bobl dlotaf yn y byd.
Mae wedi newid yn sylweddol sut mae llywodraethau, diwydiant a chyllidwyr yn rhoi cadwraeth ar waith: mae un o mwyngloddiau nicel mwyaf y byd (Ambatovy, Madagascar) wedi newid sut mae'n ceisio gwrthbwyso bioamrywiaeth, mae llywodraeth Uganda wedi ymgorffori argymhellion yn ei strategaeth wrthbwyso genedlaethol, ac mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi defnyddio canfyddiadau ymchwil mewn penderfyniadau am gyllido pwll glo ym Myanmar.
Ym Madagascar, mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dylanwadu ar sut mae'r llywodraeth a chyllidwyr yn gweithredu mesurau diogelwch i leihau effeithiau negyddol ardaloedd gwarchodedig ar y tlawd.