Crynodeb
Mae ymchwil nwyon tŷ gwydr Prifysgol Bangor wedi effeithio ar bolisi a diwydiant trwy gynhyrchu ffactorau allyriadau ocsid nitraidd gwlad-benodol newydd (N2O).
O ran polisi, mae tystiolaeth Bangor wedi gostwng cyfraniadau N2O cyfrifedig yn sylweddol ar restr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig ac wedi cyfrannu at newidiadau i ganllawiau ar lefel ryngwladol. Mewn diwydiant, mae ymchwil Bangor wedi dangos bod methan enterig yn cynrychioli cyfran fwy o gyfanswm rhestr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig nag a feddyliwyd o’r blaen ac wedi gweithio gyda sectorau cig coch/llaeth yng Nghymru i geisio nodi dulliau ymarferol o liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr.
![Gwarthaeg yn pori](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2021-04/cows%20grazing%20Canva.png?itok=z_wPFwc4)
Ymchwilwyr
- Yr Athro Dave Chadwick
- Dr Prysor Williams
- Dr David Styles