Astudiaethau Achos REF 2021
Yn arddangos yr ystod o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan Goleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor
Themâu Ymchwil
Rydym wedi nodi pum thema ymchwil sy'n rhychwantu ehangder rhagoriaeth ymchwil ar draws Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg, sydd â'r potensial i fanteisio ar arbenigedd ar draws y brifysgol.
Gweithio gydag Eraill
Rydym yn aelodau craidd o Envision, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC, sy'n ymroddedig i ddatblygu arweinwyr y genhedlaeth nesaf yng ngwyddor yr amgylchedd, ynghyd â Phrifysgolion Lancaster a Nottingham a thair canolfan ymchwil annibynnol.
Mae gennym bartneriaethau ymchwil strategol gyda'r canlynol:
- Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig, y mae un o'i bhedair gorsaf ymchwil yn y Coleg ar gampws y Brifysgol yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n un o'r grwpiau mwyaf o ymchwilwyr yng ngwyddor yr amgylchedd yn y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd rydym yn cydweithredu i gyflwyno tystiolaeth ymchwil allweddol i Lywodraeth Cymru i lywio datblygiad eu polisi amgylcheddol.
- y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, yr ydym yn cynnal ymchwil ar y cyd â nhw ers tro byd ym maes eigioneg ffisegol.