Newyddion Diweddaraf
Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol
Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi cyhoeddi eu bod am noddi dau fyfyriwr PhD yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021
Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce , cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn. Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru
Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017
Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016