Newyddion: Gorffennaf 2017
Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru
Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017