Cydweithio ag Ysgolion Academaidd
Yn ogystal â'r ddarpariaeth o fodiwlau dewisol, mae Canolfan Bedwyr yn cydweithio â rhai o ysgolion academaidd Prifysgol Bangor er mwyn rhoi cefnogaeth sgiliau iaith Gymraeg i fyfyrwyr yr ysgolion hynny.
Rydym yn cyfrannu i’r modiwlau blwyddyn gyntaf canlynol:
Cerddoriaeth Ers 1850 (WXC-1300)
Dadansoddi Data Amgylcheddol (ONC-1001)
Sgiliau Academaidd Dwyieithog (PCC-1008)
Sgiliau ar gyfer Dysgu a Gwaith (XAC-1026)
Y Gyfraith yn Gymraeg (SCL-1115)
Gallwn hefyd gynnig sesiynau sgiliau iaith y tu hwnt i fodiwlau, ar gais darlithydd neu gydlynydd modiwl. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tiwtor Sgiliau Iaith, Siân Esmor.
Pwrpas y sesiynau hyn ydy datblygu sgiliau iaith a hyder y myfyrwyr wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’r sesiynau’n help iddyn nhw wneud aseiniadau Cymraeg yn eu prif bynciau ac yn eu paratoi at fyd gwaith dwyieithog. Maent hefyd yn ddefnyddiol i’r rhai sydd am ymgeisio am am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.