Y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg
Beth ydy’r Cynllun Sabothol?
Mae’r Cynllun Sabothol yn gwrs iaith ar gyfer athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr a chynorthwywyr dosbarth sydd eisiau gwella eu Cymraeg a magu mwy o hyder yn yr iaith.
Mae’r cwrs ar gael ar dair lefel:
- Uwch (siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl)
- Mynediad (dysgwyr)
- Sylfaen (dysgwyr)
Am gopi PDF o'r daflen hyrwyddo, cliciwch ar y ddelwedd.
Yma yng Nghanolfan Bedwyr, rydyn ni’n gyfrifol am ddysgu’r CWRS UWCH.
Beth yw nod y cwrs uwch?
Gloywi iaith ymarferwyr addysg er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus i addysgu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pa fath o gyrsiau sydd ar gael?
- Cwrs rhan amser (50 diwrnod): dau ddiwrnod yr wythnos o fis Tachwedd hyd fis Mehefin (9.30 – 4.00)
Lleoliad: Prifysgol Bangor - Cwrs byr rhan amser (20 diwrnod): diwrnod yr wythnos o hyfforddiant dros gyfnod o dri mis, gydag wythnos gyfan ar ddechrau’r cwrs ac wythnos arall ar ei ddiwedd.
Lleoliad: i’w gadarnhau
Beth fyddwch chi’n gallu ei wneud ar ddiwedd y cwrs?
Ar ôl bod ar y cwrs hwn, dylech chi:
- deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth ddysgu, asesu a gwneud gwaith gweinyddol
- fod yn fwy hyderus wrth ddod o hyd i derminoleg eich pwnc a’i defnyddio’n effeithiol
- fod yn ymwybodol o fethodolegau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio a datblygu’r methodolegau hyn mewn sefyllfaoedd cyfrwng Cymraeg / dwyieithog
Pwy sy’n talu?
Mae’r cwrs am ddim. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am holl gostau’r hyfforddiant gan gynnwys costau cyflenwi, teithio a llety.
Beth mae pobl yn ei ddweud am y cwrs?
Proffesiynoldeb ydy’r gair sy’n crynhoi’r cwrs a dweud y gwir. Roedd hi’n bleserus i fod ar gwrs lle mae’r amcanion mor glir a’r fframwaith yn eich helpu i’w cyrraedd.
Athro Cynradd
Mae’r cwrs wedi bod yn llwyddiant ysgubol i mi. Dw i’n hyderus y byddaf yn gallu dysgu pob un o fy nghyrsiau yn ddwyieithog yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Darlithydd Addysg Bellach