Safonau Iaith Gymraeg
Mae Safonau'r Iaith Gymraeg yn set o 182 o ddatganiadau sy'n nodi sut mae'n rhaid i'r brifysgol weithredu o ran yr iaith Gymraeg. Mae'r Safonau wedi cael eu rhestru yn yr Hysbysiad Cydymffurfio sydd wedi'i gyflwyno i'r Brifysgol gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dyma'r Rheoliadau sy'n berthnasol i sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Mae'r 182 o ddatganiadau'n disgrifio'r 'safonau' y mae'n rhaid i'r Brifysgol eu cyrraedd wrth ymdrin â'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn monitro sut rydym yn cydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg.
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Bangor
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion