Cyrsiau Datblygu Proffesiynol
Mae gennym ni gyfres o gyrsiau datblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer byd addysg yn ogystal â chyrsiau sy’n agored i bawb.
Cyrsiau Byd Addysg
Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau byd addysg a’u prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth bersonol o reolau iaith a gwallau cyffredin a gallu cymhwyso hyn yn eich gwaith yn yr ysgol / coleg;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr; geiriaduron; gwefannau termau; offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith yn yr ysgol / coleg
- eich helpu i ymdrin yn hyderus â gofynion y Fframwaith Llythrennedd
Cyrsiau Agored i Bawb
Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau sy’n agored i bawb a’r prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth gyffredinol o reolau iaith a gwallau cyffredin;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr, geiriaduron, gwefannau termau, offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati;
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith
Cyrsiau datblygu sgiliau iaith i gwmnïau a sefydliadau allanol
Rydyn ni hefyd yn cynnal cyrsiau iaith i gwmnïau, asiantaethau a sefydliadau allanol sy’n awyddus i’w staff ddatblygu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u seilio ar ein rhaglen o gyrsiau agored ond gallwn eu teilwra i’ch gofynion trwy drafodaeth. Gallwn eu cynnal yn ein hystafell ddysgu bwrpasol yma yng Nghanolfan Bedwyr neu ddod atoch chi i’w dysgu.
Rydyn ni’n ceisio cadw’r dosbarthiadau’n fychan fel ein bod hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion unigolion lle bo hynny’n addas. Yr uchafswm o ran nifer mewn dosbarth fel arfer ydy 12.
Dyma rai sefydliadau sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn yn y gorffennol:
- BBC Cymru
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Rhwydwaith Cyfiawnder Gogledd a De Cymru
- Gyrfa Cymru
“Roedd y cwrs yn wych! Y peth mwyaf defnyddiol oedd esboniad o’r rheolau a sut i ddenfyddio Cysgliad. Roedd y tiwtoriaid yn grêt! Awyrgylch braf iawn – neb yn teimlo bod pwysau arnyn nhw.”
(Cwrs Asiantaeth yr Amgylchedd, Mawrth 2012).
”Cwrs defnyddiol dros ben! Help i ysgrifennu dogfennau e.e. llythyrau, posteri, ffurflenni ac adroddiadau, a’i wneud yn hyderus. Diolch am ddau ddiwrnod hwylus a hwyliog iawn!”
(Cwrs Rhwydwaith Cyfiawnder Cymru, Mehefin 2012)
Rydyn ni’n rhoi copi o’r Llawlyfr Gloywi Iaith am ddim i bob aelod sydd yn dod ar gwrs gloywi iaith gyda ni.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant CYSGLIAD ar wahân.
Cysylltwch â ni i drafod gofynion penodol eich cwmni / eich sefydliad chi a chael dyfynbris.