Cyfieithu Dogfennau
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dogfennau o’r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i’r Gymraeg. Gallwch anfon ychydig o eiriau o destun atom i'w cyfieithu, neu ddogfen hir.
Uwchlwytho Dogfen i'w Chyfieithu
Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar sut i uwchlwytho dogfennau i'w cyfieithu ynghyd â'r Cwestiynau Cyffredin er mwyn dysgu mwy am sut i gyflwyno dogfennau i'w cyfieithu ac am y gwasanaeth y gallwn ei gynnig
Cofiwch, os ydych yn cael unrhyw drafferthion, neu os oes arnoch angen cyngor ynglyn â chyfieithu, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bostio cyfieithu@bangor.ac.uk
Os ydych yn chwilio am gyfieithiad o deitl neu derm byr efallai y byddai Geirfa’r Uned Gyfieithu o gymorth i chi.
Sut mae uwchlwytho dogfen i'w chyfieithu?
Cliciwch ar y cyswllt uchod a mewngofnodi i’r system yn defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol. Dylech roi eich enw defnyddiwr mewn llythrennau bach.
Cliciwch ar ‘Creu Project Newydd’ ar waelod y sgrin.
Bydd angen i chi nodi eich manylion personol, manylion y gwaith ac unrhyw wybodaeth bellach.
Cofiwch roi digon o amser i ni gyfieithu eich gwaith. Os gwelwn na allwn gyfieithu’r gwaith erbyn y dyddiad yr ydych yn ei nodi, byddwn yn cysylltu â chi i drafod.
Pythefnos yw’r dyddiad dychwelyd diofyn ond gallwch newid y dyddiad hwnnw os oes arnoch angen y gwaith yn ôl cyn hynny.
Yn achos projectau mawr sydd dros 5,000 o eiriau dylech gysylltu â ni ymlaen llaw i roi rhybudd i ni y bydd y gwaith ar ei ffordd ac i drafod amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
Mae lle ar y ffurflen hefyd i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol am y project.
Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis rhwng uwchlwytho un ffeil neu nifer o ffeiliau neu deipio neu ludo testun byr o hyd at 250 o nodau cyfrifiadurol mewn blwch.
Os yw’r gwaith yn fwy na hynny bydd rhaid i chi uwchlwytho ffeil.
Gorau oll os gallwch anfon gwaith atom mewn ffeiliau Word. I ddarllen mwy am y math o ffeiliau y gallwn ac na allwn eu cyfieithu darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.
I orffen, cliciwch y botwm ‘Anfon at yr Uned Gyfieithu’.
Yn eich cofnod ar y system bydd y gwaith yr ydych newydd ei anfon at yr Uned Gyfieithu i’w weld mewn GWYN.
Unwaith y bydd Swyddog Gweinyddol yr Uned Gyfieithu wedi derbyn y gwaith a chadarnhau’r dyddiad dychwelyd bydd y gwaith yn troi’n FELYN.
Wedi i’r gwaith gael ei ddosbarthu i gyfieithydd, bydd yn troi’n LAS.
Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn troi’n WYRDD ac fe gewch neges e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i’r system i lawrlwytho eich gwaith.
Ar ôl agor y project a bydd cyswllt i’r ddogfen wreiddiol ar y chwith a chyswllt i’r cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y cyswllt i’r cyfieithiad i lawrlwytho’r ddogfen.